4.11.10

Espedwarec...

Fel dyni i gyd yn gwybod, dydy pethau ddim wedi bod yn rhedeg yn esmwyth i S4C ers sbel rwan, gyda phethau'n dod i ben llanw gyda ymddiswyddiad di-rybudd prifweithredwraig y sianel yn ól ym mis gorffenaf.  Ymddiswyddwyd hefyd Rhian Gibson, cyfarwyddydd gyda chyfrifoldeb dros gomisiynu rhaglenni i'r sianel (digwydd bod dwi'n cofio siarad gyda hi am ddarpariaeth i ddysgwyr yn Noson Gwilwyr, Lerpwl).  Mae'n eironeg efallai bod y person a gomisiynwyd Pen Talar - heb os un o'r ddramau gorau a ddarlledwyd ar S4C ers blynyddoedd - wedi gadael cyn i'r cyfres dod i ben.. er mae'n siwr mai ganddi hi gyfrifoldeb dros ambell i dwrci hefyd. 

Yn y distawrwydd byddarol a ddilynodd 'diflaniad' Iona Jones, mi gamodd Arwel Ellis Owen i'r adwy, boi andros o sych sydd i fod i lywio'r 'S.S. S4C' trwy'r dyfroedd cythryblus a thymestlus sydd i ddod. Cymerais i ddim ato fo o gwbl, hynny yw y tro cyntaf i mi ei weld yn cael ei gyfweld yn ei swydd newydd, nag ar noson gwilwyr y sianel pythefnos yn ól chwaith. Ond ers i lywodraeth San Steffan ei drin o (ac gweddill y sianel) fel y baw, mae gen i fwy o gydymdeimlad. 

Nad ydy ein hoff sianel Cymraeg ni wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd cadarnhaol yn ddiweddar, gyda'r holl nonsens 'dim gwylwyr' yn yr wasg Saesneg (dydyn nhw ddim yn cyfri plant bach yn y ffigyrau gwylio dros raglenni i blant bach!?).  Ond yn ól S4C,  mae ffigyrau gwilio rhaglenni Cymraeg wedi cynhyddu ychydig dros yr flwyddyn diwetha, sy'n mynd yn groes i'r hyn sy'n cael ei gyhoeddi fel arfer.  Mae'n anheg yn ól y sianel (ac mae synnwyr cyffredin yn dweud bod hyn yn wir) i gymharu'r ffigyrau ar gyfartaledd o'r cyfnod cyn i S4C newid i sianel gwbl Gymraeg, gyda ffigyrau ar gyfartaledd y sianel cwbl Cymraeg presennol.  Yn ól ffigyrrau eraill a glywais,  mae rhaglenni S4C wedi cael eu gwylio tua miliwn o weithiau dros y we yn y naw mis diwetha, modd o wylio fy mod i'n dewis mwy a mwy y dyddiau 'ma 

Ond dwi'n gobeithio nad ydy'r don fach o gefnogaeth i'r sianel - sy'n codi stém yn sgil yr helynt gyda'r BBC (ydy hi'n posib i don codi stém?!), yn gwyngalchu dros y problemau sylfaenol, a arweiniodd at yr ymddiswyddiadau anamserol yn ystod yr haf (o'r gorau, tydi 'ton' yn bendant ddim yn gallu gwyngalchu!!).

Mae S4C yn agos at fy nghalon i erbyn hyn, er gwaethaf yr holl wendidau. Ond mae'r torriadau enbyd yn ei gyllid, a llywodraeth newydd sydd heb ddangos llawer o ddealltwriaeth neu barch tuag at ddarlledu yn y Gymraeg, yn codi ofn am ei ddyfodol.  Ond gaiff y sianel Prifweithredwr/aig parhaol newydd cyn hir, a fydd yn un o'r penodiadau pwysigaf yn hanes y sianel o bosib... dewiswch yn ofalus!

3 comments:

Emma Reese said...

Rhaid i S4C ystyried bod 'na gynifer o Gymry a dysgwyr tu allan i'r DU'n awyddus i weld eu rhaglenni ar y we, ac yn eu cefnogi nhw.

Corndolly said...

Pwynt da, Emma, ond os bydd y BBC yn cyfrifol am eu harian fydd 'na lai o siawns nag erioed o weld y rhaglenni dros y mor.

Es i wrando ar yr awdures, Caryl Lewis, a dywedodd hi fod S4C yn tro un o'i llyfrau, 'Plu', i gyfres newydd y teledu. Gobeithio bydd hyn yn mynd ymlaen a na chaiff ei dorri o amserlen y dyfodol.

neil wyn said...

Mae'n siomedig nad ydy holl gynnyrch y sianel ar gael dros y byd. Dwi ddim yn deall y rhesymeg dros hynny (hawlfraint o bosib?), ond mae 'na gynulleidfa ffyddlon yn cael eu hesgeuluso 'does!