10.2.11

llyfrau a ballu...

Mae hi wedi cymryd peth amser, ond dwi'n anelu at ddiweddglo  'Lladd Duw'  gan Dewi Prysor, llyfr dwi wir wedi mwynhau hyd yn hyn.   Mae'n llyfr go swmpus ei olwg, gyda tua 380 o dudalennau, sy'n ei wneud o'r llyfr Cymraeg mwyaf i mi ddarllen o bell ffordd.    Fydda i'n ymdrechu wneud adolygiad ohono fo mewn ffurf fideo yn fan hyn cyn hir, mae'n jysd cwestiwn o eistedd lawr a mwynhau'r hanner cant tudalen dwi heb eu darllen eto.  

Gyda llaw, mae gen i gopi o 'Gwneddydd' yn disgwyl ei ddarllen,  oes gan unrhyw sylwadau ynglyn a'r llyfr yno tybed?

4 comments:

Corndolly said...

Dwi'n darllen 'gwendydd' ar hyn o bryd. Llyfr y mis mae'r grwp darllen ydy'r llyfr hwn. Dwi'n ceisio penderfynu a fydda yn mynd i'w orffen neu beidio.

Emma Reese said...

Darllenais i Gwenddydd fisoedd yn ôl. A dweud y gwir, dw i ddim yn siŵr mod i'n licio'r nofel er mai camp enfawr oedd hi i Jerry Hunter wrth gwrs i sgwennu'r fath nofel yn Gymraeg.

Ann Jones said...

Dwi ddim wedi gorffen y llyfr, i ddeud y gwir. Collais diddordeb hanner ffordd trwy'r llyfr.

neil wyn said...

Diolch am y sylwadau i gyd. Dechreuais Gwenddydd heddiw, ga i weld sut lyfr ydy o dros y dyddiau nesa gobeithio!