11.5.06

cyfarfod

dwi ddim yn ffan mawr o gyfarfodydd pwyllgor, ond rhywbeth hanfodol ar rhan drefnu pethau ydyn nhw weithiau siwr o fod. Felly dyna fi'n eistedd mewn stafell dosbarth yn Ysgol Maes Garmon neithiwr yn meddwl rhywbeth fel 'be' ar wyneb y ddaear ydwi'n dod yma'... Roedd 'na griw golew o bobl yna chwarae teg, rhai hugain neu fwy 'swn i'n dyfalu, ac ychydig o ymddiheuriadau hefyd.

Mi gafodd lleoliad 'noson dysgwr y flwyddyn' cryn dipyn o drafod, ond o'n i ddim yn gwybod y rhan mwyaf o'r gwesteion dan sylw felly o'n i cymaint o ddefnydd a^ thebot siocled.. Mae nhw'n chwilio am gwesty (neu stafell digwyddiad) sy'n gallu ymdopi a chant a hanner yn eistedd lawr am bryd o fwyd. Mae 'na rhestr byr o dair sy'n cael eu ystyried o ddifri cyn i'r cyfarfod nesa. Ar ol cwpl o faterion eraill mi ddoth 'rhaglen pabell y dysgwyr' i frig yr agenda sydd yn trafod o'n i'n meddwl allwn i gyfrannu ati hi. Dwi'n falch o ddweud mi wnes i gwpl o cyfranniadau felly roedd pwynt i fi bod yna! Y tro nesa dwi'n gobeithio cyfrannu mwy, mae pawb yn mynd i fod yn meddwl am awgrymiadau i'r rhaglen dros yr haf. Mae gen i gwpl o bethau yn fy meddwl yn barod, ac mi rodd swyddog yr Eisteddfod copiau o'r pump rhaglenni diwetharaf iddyn ni i roi flas o'r math o ddigwyddiadau sy' wedi digwydd er mwyn croesawi a diddori dysgwyr.

A dweud y gwir o'n i jyst yn hapus mi wnes i ddeall digon o'r cyfarfod i gael dweud rhywbeth. Dwy flynedd yn ol 'swn i erioed wedi dychmygu bod mewn cyfarfod cyfrwng Cymraeg heb son am gyfrannu.

No comments: