3.5.06

disgwyl pecyn

Mi ges i e-bost ddoe i ddweud bod y camera yn cael ei 'dylifro' heddiw. Mae fy ngwraig yn gweithio heddiw felly rhaid i mi aros adre er mwyn ei dderbyn, rhag ofn mae 'na angen llofnod am y peth. Weithiau mae gyrrwyr yn fodlon gadael pecynau yn y 'porch' dan glo fel petai ond mae'n 'cyfraith sod' y tro yma taswn i ddim yma mi fasai'r gyrrwr yn dychweled a^'r peth i Warrington neu rhywle uffernol fel hynny. Sdim ots achos mae gen i lwyth o cynllunio 'cad' a gwaith papur i wneud, ond mae gen i lawer o stwff i wneud yn y gweithdy hefyd. Ar rhan y gwaith, dwi'n tueddi o feddwl mewn wythnosau, felly pan mae gynnon ni penwythnos gwyl y banc dwi'n dal i drio wneud wythnos werth o waith mewn pedwar diwrnod. Erbyn dydd iau fydda i wedi sylweddoli rhywbeth amhosib ydy hi siwr o fod, yn enwedig efo hanner ddiwrnod o waith papur!

Well i mi dychweled i'r gwaith rwan tra chadw 'fy nhglust allan' (mae 'na ddwediad Cymraeg dros hyn siwr o fod...?) am noc ar y drws. Os dwi'n gallu gweithio allan cyfarwyddiadau y camera mewn amser, falle fydd y flog newydd efo fideo.. pwy a wir.

No comments: