28.5.07

Rhagfarn?

Dwi ddim y math o berson i wthio fy marnau lawr corn gwddf unrhywun, gobeithio! Ond taswn i i glywed rhywbeth o'n i'n anghytuno gyda hi'n gryf, barnau hollol rhagfarnllyd, dwi'n gobeithio faswn i'n dweud rhywbeth. Falle dwi'n mwy sensatif iddi ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg, ond mae'n syndod sut gymaint o sylwadau gwrth-Gymreig a gwrth-Gymraeg dwi'n clywed yn ystod fy mywyd o ddydd i ddydd.

Dwi'n cofio amser maith yn ol bod mewn tafarn gyda grwp o 'gyfeillion', a dyna un ohonynt, boi sy newydd symud i'r ardal, yn dweud rhywbeth fel 'I was tuning in the radio and I heard a radio station in Welsh!', digon teg, cafodd o syndod i glywed rhywbeth o'r fath, ond yr hyn wnath fy ngwylltio i roedd ymateb 'ffrind' arall, sef 'I hate it'! Nid roedd yr iaith jysd yn mynd ar ei nerfau tra geisio tiwnio mewn i radio 4 ambell i waith, nac oedd, roedd ganndo fo casineb pur at yr iaith Cymraeg. Dyni'n son y fama am ddarllenwr cyson y Gaurdian, darlithydd yn y celfyddydau mewn coleg lleol. Ro'n i'n hollo mud, sgen i ddim gair. Sdim rhaid i fi ddweud wrthot ti dwi ddim yn gweld llawer ohono rwan.

Dros y penwythnos mi es i i barti a chwrddais a^ dynes o De Gymru yn wreiddiol. Mi grybwyllodd Jill (fy ngwraig) y ffaith mod i wedi bod wrthi'n dysgu Cymraeg ers sbel a dwedodd y dynes doedd neb yng Nghaerdydd yn siarad Cymraeg, ond chwarae teg iddi, roedd hi'n falch i weld llawer mwy o arwyddion dwyieithog ar strydoedd y prifddinas erbyn hyn. "I'm bloody not" ebychodd ei phartner (miliynydd lleol sy'n ffrind o ffrind fel petai, dipyn bach o goc oen a dweud y gwir), "Every other bloody country in Europe just has 'STOP' written on the road except bloody Wales where they have to have the bloody Welsh as well". Wel dwi ddim yn sicr, ond o'r hyn dwi'n cofio does dim ond y gair STOP yng Nghymru hefyd, gan bod y gair STOP yn rhan o'r Gymraeg erbyn hyn! (cywirwch os gwelwch yn dda os nad ydwi'n iawn). Ychydig yn nes ymlaen roedd yr un un boi yn son am ei chwaer 'Olwen', a ffeindiais i fy hun yn dweud, "that's a good Welsh name, the same as my mums", "O yes" meddai fo "and I'm Dafydd Glyn James", ond wrth cwrs mae pawb yn ei alw David! Doeddwn i ddim yn gwybod a ddylwn i chwerthin neu wylo, ond erbyn hynny roedd y jo^cs ofnadwy roedd o'n mynnu dweud wrth unrhywun gyda clyw'n mynd reit ar fy mronnau, felly wnaethom ni ein esgusodion i adael.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Well i ti beidio dangos canlyniadau Cyfrifiad 2001 i'r bobl o dde Cymru, ble maen dangosod bron i 40,000 o siaradwyr Cymraeg yn ein prifddinas!

gwrth-Gymraeg
a
gwrth-Gymreig

yw 'anti'-.........

Mae yn syndod weithiau clywed sylwadau pobl byddet yn disgyl gwell ohonynt, er dwi'n dod i'r casgliad does neb mwy rhagfarnllyd a llawn ystradbau na darllenwyr y Guardian.

neil wyn said...

Wwps, Diolch Rhys, wna i'w cywiro, dylswn i wedi cofio hynny!

Dylswn i wedi cofio'r ystadegau ynglyn a^'r nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd hefyd. Pob tro dwi'n meddwl am yr hyn dylswn i wedi ei ddweud yn rhy hwyr!