25.10.09

Blogiau dwi'n eu dilyn...

Dwi'n ceisio darllen cymaint â phosib o flogiau eraill fy mod i'n eu dilyn, yn enwedig rheiny gan ddysgwyr eraill. Ond dros y cwpl o wythnosau diwetha dwi heb weld llawer o bostiau newydd yn ymddangos ar y rhai sydd ar y rhestr fer 'na, ar y dde --> ar wahan hynny yw i flog Junko sydd a rhywbeth i'n ymddiddori nifer o weithiau pob wythnos fel arfer :)

Wrth cwrs mae blogio'n rhywbeth anodd i wasgu mewn i'n bywydau brysur, a dwi'n yr un mor euog o esgeuluso'r blog hyn (ac eraill) o bryd i'w gilydd. Felly er mwyn gwneud mwy o gyfleuoedd i mi ddarllen blogiau eraill, dwi'n bwriadu ychwanegu at y rhestr yna, a thrwy hynny cynyddu y siawns i mi sylwi ar bostiau newydd fy nghyd-flogwyr! Dwi wedi dechrau efo Llais y Dderwent, blog dwi wedi darllen o'r blaen gan Jon o swydd Derby, ond un wnes i faglu drosti unwaith eto heno, tra crwydro trwy bostiau Junko ..diolch!

3 comments:

Emma Reese said...
This comment has been removed by the author.
Emma Reese said...

Ydy, mae'r byd blogio Cymraeg wedi bod yn ddistaw'n ddiweddar ar wahân i rai gan bobl 'broffesiynol.' Dw i'n trio sgwennu fy mlog pryd bynnag bod 'na bynciau addas, ond faswn i ddim isio sgwennu am ein swperau ac am ffair wyddoniaeth yr ysgol eto fyth! (er mai 'pot luck' yn dal yn achlysur pwysig. ^^)

Mae gen i ddiddordeb mawr yn dy ddosbarth Cymraeg di. Gobeithio y byddi di'n dal i sgwennu amdano fo.

Nic said...

Ti ddim yn dilyn y blogs gywir, siawns ;-)