9.10.09

Gwthio'r Ffin.......



Mi holodd un o'r dosbarth nos y llynedd os oedd penrhyn Cilgwri erioed wedi bod yn rhan o Gymru, cwestiwn da ac i fod yn onest un nad oeddwn wedi ystyried o ddifri cyn i'r noson honno. Mae'n dibynnu am wn i ar sut yn union mae rhywun yn diffinio 'Cymru' ("When was Wales?" gofynodd Gwyn A Williams yn nheitl ei lyfr), ac wrth cwrs ar hanes y ffin troeog sydd gynnon ni heddiw, ffin a gafod ei cadarnhau o dan y Deddfau Uno rhwng l536 a 1543

Ta waeth, ges i fy atgoffa o'r trafodaeth unwaith yn rhagor gan llun a ymddangosodd yng nghylchgrawn Barn mis hydref, un sy'n cynhyrchioli mewn paent (dwi'n meddwl) gweledigaeth Owain Glyndŵr i ymestyn ffiniau ei wlad i gynnwys siroedd y gororau, o Lannau Mersi yn y gogledd i aber Hafren yn y De, gan cynnwys llefydd fel Caerwrangon, ac yn bendant Cilgwri. Yn sicr, nad oedd y Gymraeg neu'r Cymry (fel heddiw!) yn cyfyngedig i diroedd i'r gorllewin o'r ffin, ond gafodd penrhyn Cilgwri ei coloneiddio gan Lychlynnwyr o Iwerddon yn y degfed canrif, ac roedd y sacsoniaid wrth cwrs wedi cyraedd cyn hynny. Felly yng nghyfnod Glyndŵr prin fyddai llawer o boblogaeth gwasgaredig Cilgwri wedi teimlo fel Cymry tybiwn i. Ond pe tasai Glyndŵr wedi ennill y 'dadl' pwy a wir, gallai Cilgwri wedi bod yn rhan o Gymru, a ninnau'r 'Cilgwriaid' yn Gymry go iawn!?

3 comments:

Alwyn ap Huw said...

Pan nad ydwyf yn blogio nac yn gwleidydda fy hoff delit yw hel achau. Yng nghyd a'r deddfau uno a ddiffiniwyd ffin gyfredol Cymru, fe wnaeth Harri'r 8fed gorchymyn cadw cofrestri plwyfol o enedigaethau, priodasau a marwolaethau.

Mae chwilio'r cofrestri hyn yn dangos yn amlwg bod y Gymraeg yn fyw ymhell y tu hwnt i Glawdd Offa hyd y 18fed ganrif.

Ceir enwau megis Gruffydd ap Gwilym ac ati yn swyddi Caer, Yr Amwythig, Caerwrangon, Caerloyw a Henffordd hyd at y 1780au.

Ceir enwau megis Peterstow, a Bridstow yn Swydd Henffordd yn cael eu hadnabod fel Llanbedr ar Wy a Llansanffraid yng Ngwy hyd at y 1850au; a'r gorau oll, wrth gwrs, yw'r Dyffryn Oer yn cael ei gyfieithu yn Golden Valley yn y 1850au!

Gan fod Cilgwri mor agos i ffin "traddodiadol" (bellach) Cymru byddwn yn disgwyl bod yr un prawf o Gymreictod cynhenid y lle ar gael hefyd.

Anonymous said...

Mae enwau lleodd yn Swydd Caer yn dangos bod y Cymry Cymraeg wedi byw yno, e.e. Afon Gowy (Gwy?), penref o'r enw 'Tarvin' - terfyn, pentref arall o'r enw Bryn ger Northwich ac yn y blaen.

neil wyn said...

Dwi'n credu bod yr enw 'Ince' (pentref ger Ellesmere Port) tn tarddu o'r gair 'ynys' hefyd, diddorol iawn ynde...