4.10.09

Gêm i anghofio...diwrnod i gofio....

Mi aethon ni draw i Wrecsam dydd sadwrn i wylio'r clwb pel-droed yn herio Salisbury (ie,pwy!!) yn uwch cynghrair y Blue Square, neu'r 'Conference'. Anrheg penblwydd wyth deg fy nhad oedd hi, pecyn 'hospitality' yn cynnwys pryd o fwyd yn y Bamford Suite cyn i'r gêm ac wedyn sêt yn y blwch 'egseciwtif' i weld y gêm. Rhaid i mi ddweud roedd y croeso a'r hopitality yn ardderchog efo pryd blasus iawn a gweinyddesion cyfeillgar ac 'astud' yn edrych ar ein ôl, a chawsom y gyfle i ddychweled i'r 'suite Bamford' am baned hanner amser, ac i wylio seremoni 'charaewr y gêm' ar ôl i'r chwarae hefyd. Mi ddarparwyd pêl wedi ei arwyddo gan y tîm ar ein rhan hefyd, er mwyn i fy Nhad mynd adre efo rhywbeth i'w atgofio o'r achlysur.

Yn anffodus, yr unig drwg yn y caws oedd y pêl-droed, sef gêm ddiflas tu hwnt efo'r cochion yn colli 1-2, ac yn sgîl hynny yn cyrraedd gwaelodion y 'Blue Square Premier', ac i fod yn onest mewn trafferth go iawn. Mi ddiflanodd hyder y tîm yn ystod yr hanner cyntaf wedi i'r ymwelwyr cipio dwy gôl haeddianol cyn yr hanner awr. Siwr o fod gafodd chwaraewyr Wrecsam eu 'bolycio' yn ystod yr egwyl, ond wnaeth hynny ddim fawr o wahaniaeth wrth i Salisbury bygythio troi dau yn dri. Ond gwella oedd yr hanes ar ôl i gyfnewidiad dwbl efo hanner awr cwta i fynd. Mi drodd Wrecsam i dîm bygythiol ac ar ôl iddyn nhw cael un gôl yn ôl, mi ddylsen nhw wedi dod yn cyfartal efo nifer o gyfleoedd da yn cael eu gwastraffu, a Salisbury yn wneud fawr o ddim i fygythio gôl y tîm gartref. Ond sdim ots am y pêl-droed, mi gafodd fy nhad a ninnau diwrnod da a phrofiad gwahanol o wylio pêl-droed, mi fydd hi'n anodd dychweled i'r hen drefn o giwio i wasgu trwy'r tyrnsteils tybiwn i!

No comments: