11.10.09

Y resort olaf....


Mi aethon ni i weld y sioe cerdd 'Cabaret' dydd sadwrn, mewn theatr lleol sydd newydd cael ei ail-adeiladu. Y Floral Pavilion, New Brighton yw'r theatr mwyaf yng Nhgilgwri, wel yr unig theatr go iawn mewn gwirionydd, sydd yn ei newydd wedd yn fath o 'variety theatre' ar lan y mor, ac erbyn hyn un sy'n gallu denu (unwaith yn rhagor) sioeau ac artistiad o safon.

Ar un pryd roedd New Brighton yn resort poblogaidd iawn, ei thraeth aur, atyniadau, y pwll nofio awyr agored mwyaf yn Ewrop, tîm peldroed y pedwaredd cynghrair a thŵr oedd y strwythyr talaf ym Mhyrydain yn denu miloedd ar filoedd ar y llongau fferi o Lerpwl a thu hwnt. Yn anffodus mi gafodd y tŵr ei dynnu lawr cyn ail rhyfel y byd, a diflannodd y tywod i bob pwrpas ar ôl i'r awdurdodau codi amddiffyniad y mor concrît hyll, a chafodd y pwll nofio ei dymchwel ar ôl i storm enbyd tanseilio'r sylfeini ym 1990. Mi aeth New Brighton reit i lawr, yn serenu fel 'The Last Resort' mewn sioe celf a llyfr ym 1985.



Ond o'r diwedd mae 'na hadau gobaith yn dechrau tyfu, ac efo'r theatr newydd a chanolfan cynhadleddau drws nesaf bellach ar agor, mae golwg y lle wedi gwella am y tro cyntaf ers degawdau.

Roedd y cynhyrchiad yma o 'Cabaret', yn serenu Wayne Sleep a Siobhan Dullon, actores wnaeth orffen yn ail ar ôl Connie Fisher yn y cystadleuaeth i ffeindio 'Maria'. Mae Sleep yn gwybod sut i chwarae cynulleidfa, a sut i chwerthin ar ei ben ei hun (am y ffaith mai ei ddyddiau dawnsio wedi dod i ben mwy na lai), ac mae gan Siobhan llais ardderchog, felly roedd hi'n cynhyrchiad gwerth ei weld, ac mae'n pwysig cefnogi llefydd lleol, er mae'n mor hawdd pigo draw i theatrau Lerpwl,

No comments: