5.10.09

Cerys yn cyrraedd yr uchelfannau....


Mi ddisgynodd jiffy bag ar lawr y cyntedd y bore 'ma efo clec addawol. Mi rwygais y cwydyn melyn ar agor yn eiddgar i ddatgelu copi o albwm newydd Cerys Matthews (neu ddylwn i ddweud y fersiwn Cymraeg ohoni, ac un wedi ei arwyddo hefyd!}. Mae gan 'Paid Edrych i Lawr' swn llawn, melfedaidd, melotronaidd hyd yn oed mewn rhanau, gydag elfen cryf o swn o'r chwedegau yn perthyn iddi. Ond wedi dweud hynny, nid casgliad o gameuon sy'n edrych yn ôl yw hyn, mae'r cyfuniad o lais unigryw Cerys Matthews, a'i dawn fel cyfansoddwraig gwreiddiol, yn gwneud i'r albwm swnio'n ffres a chyfoes, nid cerddoriath retro yw hyn. Mae Cerys yn ei hanterth yn canu harmoniau di-ri ar rai o'r traciau, tra ar eraill cawn ni ei chlywed yn llefaru hanes y cân bron, cyn newid gêr a hedfan i uchelfannau ei llais swynol.

Dyma albwm gwahanol, llawn amrywiaeth, ac un sydd tebyg o dreulio cyfnod golew yn chwaraewr CD y car (meincnod fi). Ond mae 'na un cwestiwn sy'n fy mhoeni... Baswn i wedi ei brynu, pe na fasai'r albwm wedi ei rhyddhau yn y Gymraeg? Dwn i ddim yw'r ateb. Wnes i ddim prynu yr albwm cyn hyn (dim ond ar gael yn Saesneg), er i mi glywed a licio ambell i drac. Ond dwi'n falch ei bod hi wedi ymdrechu gwneud yr albwm hwn ar gael yn y Gymraeg, rhywbeth wnaeth tynnu fy sylw yn sicr.

G.Ll. Os ti eisiau copi wedi ei arwyddo, prynwch eich copi trwy'r dolen ar ei gwefan swyddogol.

No comments: