Dwi newydd gwylio rhaglen gwleidyddiaeth y BBC 'Question Time', a ddigwydd bod yn cael ei darlledu o Landudno heno. Dwn i ddim o le mae'r rhaglen yn ffeindio'r cynulleidfa (faswn i wedi disgwyl iddo gynhyrchioli etholaeth yr ardal) ond prin clywon ni acenau y Gogledd ymhlith y cyfranwyr o'r llawr. Ond ta waeth am hynny, yr hyn wnaeth wir yn fy ngwylltio oedd clywed Ysgrifenydd Cymru'r Wrthblaid, sef Cheryl Gillan (yr un wnaeth hawlio arian am fwyd cwn ar ei threuliau swyddogol!) yn mynnu dweud 'landudno', a hithau yn Cymraes o 'Landaf'!! Maen digon posib fasai'r rhan helaeth o'r cynulleidfa'n ynganu enw'r dref yn yr un modd, ond llwyddodd hyd yn oed y Dimbleby (dwi byth yn cofio pa un sy'n wneud pa raglen) oedd yn y cadair parchu'r ffordd 'Cymreig' o swnio'r enw... sawl waith.
Ges i fy atgoffa o'r Ysgrifenydd Cymru toriaidd John Redwood druan yn ceisio canu'r anthem tra fynychu rhyw achlysur swyddogol flynyddoedd yn ôl, sydd wrth cwrs ar gael ar YouTube erbyn hyn
No comments:
Post a Comment