14.11.09

Babanod Toshack yn disgleirio...

Nid yn aml y dyddiau 'ma, gawn ni ymfalchio mewn buddigoliaeth campus tîm peldroed Cymru, ac hynny hefyd ar ddiwrnod pan colli oedd hanes tîm Lloegr! Oce, roedd bois y tri llew yn chwarae yn erbyn tîm gorau'r byd, sef Brasil, ac roedd Cymru'n gwynebu tîm 'ychydig' yn is lawr cynghrair FIFA o dimau'r byd, sef Yr Alban.

Ond wedi dweud hynny, doedd gan Gymru fawr o obaith ar babur cyn i'r gêm (yn enwedig efo nifer o'r chwaraewyr mwyaf profiadol wedi eu tynnu allan am ryw rheswm neu arall), ond llwyddodd y tîm sydd gyda oedran ar gyfartaledd o dim ond 22 curo'r Albanwyr mewn steil yn stadiwm newydd Dinas Caerdydd. Gêmau 'cyffeillgar' oedd y dwy ohonynt, ond does dim ffasiwn peth mewn realaeth, efo pob chwaraewr yn ceisio manteisio ar y cyfle i hawlio lle parhaol yn eu tîm nhw.

Gyda chriw ifanc Cymru yn dechrau disgleirio ar y llwyfan mawr, mae'n rhaid bod dyfodol y tîm genadlaethol yn fwy gobeithiol nag awgrymwyd gan ganlyniad yr ymgyrch diweddaraf i ennill lle yn rowndiau terfynol cwpan y byd. Ond ai Toshack fydd yn eu harwain yn yr ymgyrch nesaf...?

2 comments:

Gwybedyn said...

Sut hwyl!

Gan dderbyn eich gwahoddiad i gywiro'ch iaith, dyma newid ambell i beth yn eich paragraffau amdanoch chi'ch hun:

"Neil Wyn Jones dwi, dysgwr ers rhyw wyth mlynedd bellach. Dwi'n byw yng Nghilgwri (Wirral), sef y penrhyn llaith sy'n llenwi'r bwlch rhwng afonydd Mersi a Dyfrdwy. Erbyn hyn dwi'n gweithio fel tiwtor rhan amser i griw o ddysgwyr eraill, profiad sy'n fraint ac yn blesur, ac un wneith arwain at welliant yn fy Nghymraeg hefyd, gobeithio... cawn ni weld!

Diben y blog yw rhoi cyfle i mi ymarfer fy Nghymraeg, gan geisio mynegi fy hun yn yr iaith, yn ogystal â rhannu profiadau gyda phobl eraill yn y 'byd blogio Cymraeg'. Mae croeso i unrhyw un gywiro fy Nghymraeg neu gynnig sylwadau ar fy ngeiriau 'ar hap'! Mwynhewch a maddeuwch os gwelwch chi'n dda..."

Rhowch wybod os hoffech chi imi esbonio unrhyw bwynt gramadegol.

neil wyn said...

Diolch yn fawr Gwibedyn, dwi wedi mynd amdani i wneud y cywiriadau, a newid yr wyth i naw!

Diolch eto, Neil