9.11.09

Blodau....

Gwiliais y pennod cyntaf o ddrama newydd S4C Blodau neithiwr, neu ddylswn i ddweud wnes i drio ei wylio gan roeddwn i wedi flino'n lân erbyn i mi gael siawns eistedd lawr efo'r gluniadur. Rhaid i mi drio unwaith eto heno, am fod y lleoliadau'n gwneud i'r cyfres yn ddiddorol i unrhywun sy'n cyfarwydd âg ardal Llandudno, a chafodd rhai o'r golygfeydd eu saethu yn Lerpwl hefyd.

Dwi'n credu ei fod S4C yn ceisio creu naws cyfandiraidd i'r cyfres yma, o steil gwallt y prif cymeriad Lili (sy'n fy atgoffa o gymeriad mewn ffilm Ffrengig enwog) i'r cerddoriaeth cefndirol 'acordianaidd', 'mandolinaidd' sy'n dilyn rhywun trwy'r golygfeydd. Dwn i ddim am safon yr actio eto, nag y stori chwaith, ond os mae 'na 'olwg' dda ar y sgrîn i ddechrau, siawns bydd mwy o bobl yn ei wylio erbyn y diwedd...

2 comments:

Emma Reese said...

Dydy Blogger ddim wedi gwenud ei waith yn dda, dw i'n gweld rwan. Dw i heb wybod fod ti wedi sgwennu tri post eraill ers rhyw ddeg dirnod. Dy bost diwethaf sy ar ochr fy mlog ydy "treftadaeth gwerth ei achub."

neil wyn said...

Diolch am ddweud Junko, dwi'n sylweddoli rwan fy mod i wedi colli nifer o bostiau pobl eraill yn ddiweddar trwy dibynnu ar eu gweld nhw'n troi fyny ar ochr fy mlog, er dy rai di wedi ymddangos pob tro :)