17.11.09

Dylai Brif Weinidog Cymru bod yn Siaradwr Cymraeg?

Dyma'r prif cwestiwn a gafodd ei ystyried ar raglen Taro'r Post ddoe, ar ôl i nyth cacwn cael ei godi yn sgîl rhaglen 'Y Byd ar Bedwar' neithiwr. Mae Edwina Hart yn meddwl bod waeth iddi siarad Sienieg neu Fengaleg ar ran ei hetholaeth aml-ddiwylliannol, na siarad y Gymraeg. Gallai rhywun dweud pwynt digon teg yw hyn, ond dwi'n sicr nad ydy pobl o dramor sy'n dod i Gymru yn disgwyl i'r Brif Weinidog siarad eu hieithoedd nhw, tra beidio ffindio'r amser i ddysgu un o ieithoedd swyddogol ei wlad ei hun!

Wrth i Dylan Jones rhoi rhagflas ar y raglen ar sioe 'Eleri Siôn a Dafydd Du' y bore ddoe, dyma Eleri Siôn yn costrellu'r peth mewn chwinciad yn ei ffordd 'di flewyn ar dafod' ei hun: "Wel dyma'r diwedd ar ymgais Ms Hart te" meddai... ac i fod yn onest dwi'n tueddi cytuno. Trwy ateb cwestiwn am ei diffyg Cymraeg mewn ffordd mor annystyriol ac ammddifynnol prin iawn fydda hi'n wrthdroi mantais glir ceffyl blaen y ras, sef Carwyn Jones yr unig Cymro Cymraeg ymhlith y tri ymgeisydd. Mae'r llall Huw Lewis, yn wrthi'n dysgu'r Gymraeg yn ôl pob son efo'r Prifysgol Agored. Doedd gan Ms Hart dim cynlluniau ar ran dysgu'r iaith o'r hyn a glywais chwaith, felly pe tasai hi i ennill y ras, mi gallai hi fod yr arweinydd Plaid Lafur cyntaf i fod yn ddynes, ac yr Prif Weinidog Cymru gyntaf i fod yn ddi-Gymraeg hefyd.

Yn ystod y rhaglen mi ofynnodd un gyfrannwr cwestiwn oedd ar y wyneb yn llygad ei le, sef pa wlad arall sydd gan brif weinidog sy'n methu siarad iaith eu gwlad
eu hun. Wrth cwrs mi ddaeth ateb yn ôl yn rhestri nifer ohonynt (Yr Alban, Iwerddon, Seland Newydd!), ond nid cymhariaethau teg yw'r rheiny gallai rhywun dadlau falle. Wrth cwrs does dim ateb pendant, dwedodd hen Rhodri roedd ei allu o i siarad y Gymraeg yn 'handy', ond falle na ddylsai Cymru cwtogi'r nifer o ddarpar prif weinidogion sydd ar gael trwy rhwystro y di-Gymraeg. Wedi dweud hynny, onid dylsai darpar prif weinidog deall yn bendant bod y Gymraeg yn pwnc sydd angen sensatifrwydd a dealltwriaeth yn hytrach na pâr o sgidiau seis naw.....?

3 comments:

Emma Reese said...

Mi wna i eilio Eleri Shôn felly! Mae agwedd Edwina Hart yn sarhad i'w wlad ei hun.

Emma Reese said...

Welest ti hwn?
http://www.golwg360.com/Newyddion/cat47/Erthygl_7488.aspx

Llongyfarchidau mawr i ti!

neil wyn said...

Do! mi wnes i a ches i ysgytwad a dweud y gwir! Diolch am fy llongyfarch i:) Digwydd bod o'n i hanner ffordd trwy blogio amdani pan ges i dy ymateb!