26.11.09

Dyleit Digidol....

Pan wnes i droi'r teledu ymlaen y bore 'ma (yr un yn y stafell cefn sy'n derbyn y signal o Gymru) cofiais yn syth roedd darllediadau analog wedi dod i ben, wrth i mi wynebu sgrîn du! Switsiais'r set i 'Ddigidol' er mwyn gwylio'r newyddion ond cofiais hefyd dim ond ychydig o sianeli wedi eu tiwnio mewn ar y 'Freeview o Gymru' oherwydd diffyg cryfder y signal. Ta waeth oherwydd y newidiadau, roddais dro ar eu hail-diwnio rhag ofn bod pethau wedi gwella. Cliciais y menu er mwyn galluogi i'r teledu mynd trwy ei phethau, ond ac ar ôl cwpl o funudau ges i fy siomi ar yr ochr gorau wrth i mi cael fy croesawu gan 'Cyw', gwasanaeth S4C i blant ifanc mewn lliwiau llachar glir. Does dim (eto) unrhyw fath o 'bicseleiddio' yn perthyn i'r pictiwr, rhywbeth sy'n tueddi digwydd i signal digidol gwan, dim ond llun cryf a 'miniog'. Felly gobeithio dyma arwydd o'r ffaith a gafodd y signal digidol ei crancio fyny ar ôl i'r analog cael ei diffodd, rhywbeth ro'n i wedi clywed amdani ond byth wedi credu tan heddiw.

3 comments:

Corndolly said...

Da iawn ! Doedd gen i ddim digon o amser er mwyn darllen ymlaen ddoe, ond dw i'n falch o glywed bod S4C ar gael i ti unwaith eto.

Dw i'n ei derbyn trwy Satelite ond y tro diwethaf es i ar y teledu digidol, doedd 'na ddim signal o gwbl ar S4C. Efallai dylwn i geisio aildiwnio'r teledu unwaith eto.

neil wyn said...

Yndan, aildiwnio yw'r peth! mae gwyrthau'n gallu digwydd (er hoffwn i ddileu'r rhan mwyaf o'r sianeli sydd ar gael!!).

neil wyn said...

Yndan, aildiwnio yw'r peth! mae gwyrthau'n gallu digwydd (er hoffwn i ddileu'r rhan mwyaf o'r sianeli sydd ar gael!!).