20.12.09

Ar y tracs neu oddi ar y cledrau?

Ges i fy nghyffro pan glywais am ddrama newydd S4C 'Ar y Tracs', ffrwyth cyd-sgwennu rhwng dwy ysgrifenwraig o fri, sef Ruth (Gavin a Stacey) Jones a Catrin (Random deaths and Custard) Dafydd. Mae'n braf bod y cwmni teledu wedi dennu dawn disglair megis Ruth Jones i sgwennu ar ran yr orsaf, ac hynny wrth i gyfres arall o 'Gavin and Stacey' (i'r rhai sydd ddim wedi ei gweld neu sy'n byw tramor falle: cyfres comedi llwyddianus iawn, wedi ei seilio â pherthynas rhwng merch o Dde Cymru a hogyn o Dde Lloegr) newydd dechrau ar un o brif sianeli Prydain. Nad ydy Ruth Jones yn siaradwr Cymraeg hollol rhugl, a dyna pam mae'n siwr gafodd Catrin Dafydd (sy'n cyfrannu i sgriptiau Bobl y Cwm) ei gwahodd i sgwennu ar y cyd efo hi.

A dweud y gwir, ges i fy siomi braidd, gan y diffyg Cymraeg yn y cynhyrchiad. Wrth cwrs trwy seilio drama yn rhannol ar fwrdd trên rhwng Abertawe a Llundain, fasai'n hollol abswrd cael drama yn gyfan cwbl Cymraeg, ond roedd hyd yn oed sgyrsiau rhwng y siaradwyr Cymraeg yn Saesneg weithiau, neu yng Nghymraeg wedi eu brithio efo cymaint o Saesneg nes bod o'n teimlo yn annaturiol rhywsut. Ond dwn i ddim, falle dyna sut mae nhw'n siarad yn fan'na?

Wedi dweud hynny, drama arbennig o dda oedd hi. Dwi'n sicr nad ydy ffilmio drama ar drenau go iawn ac mewn gorsafoedd dim yn peth hawdd i wneud, ond gweithiodd bethau'n dda. Wnes i hoffi yn enwedig cymeriad 'cameo' Ruth Jones, gweinyddes caffi'r orsaf o wlad y Pwyl efo dull 'sofietaidd' o drin ei chwsmeriaid.

Dyma fy unig cwyn, drama dwyieithog oedd hi, a ni welais i hi'n cael ei hysbysebu fel 'na, hynny yw on'i'n disgwyl mwy o Gymraeg! Gallai wedi cael ei darlledu ar BBC2Wales heb cymaint o is-deitlau mewn gwirionedd!

2 comments:

Corndolly said...

Dw i wedi recordio 'Ar y tracs' ond heb ei gweld hi eto. Rhaid i mi ddweud rŵan, dw i ddim yn siŵr a ydw i eisiau ei gweld hi !!

neil wyn said...

Faswn i ddim eisiau bod yn cyfrifol am annog rhywun i beidio ei gwylio... dim ond rhybuddio am cynnwys y drama ar ran y Gymraeg! Os ti'n mwynhau cynnhyrch Ruth Jones rho gynnig iddi yn bendant, dwedwn i!