15.12.09

Dosbarth olaf y flwyddyn....

Gaethon ni ein dosbarth olaf cyn y dolig heno 'ma, cyfle i wneud rhywbeth llai heriol a ffurfiol. Wnes i ddarparu cwis bach ysgafn, oedd i fod yn dipyn o hwyl, ond sylweddolais hanner ffordd trwyddi falle ro'n i'n gofyn cryn dipyn ohonynt i ddeall pob cwestiwn heb gymhorth.

Dwi'n meddwl gaeth pawb hwyl, ac ar ôl sleisen o fara brith gan Anne, a chacennau indiaidd gan Nigel i godi sychder arnyn ni, i ffwrdd â ni i'r 'Tri Carw' am ddiod mewn awyrgylch llai ffurfiol na'r dosbarth. Mae'r grŵp yn dod ymlaen yn dda, ac roedd hi'n braf cael siawns am sgwrs yn y fath sefyllfa, heb boeni am be' fydda i'n gwneud nesa yn y gwers, fel sy'n digwydd fel arfer mewn egwyl.

Dwi'n meddwl am addasu'r cwis ar ran y dosbarth nos yfory er mwyn gwneud rhywbeth gwahanol efo nhw, gawn i weld sut eith pethau..

1 comment:

Emma Reese said...

Mae noson gwis yn swnio'n hwyl.

Wnaethoch chi siarad Cymraeg yn y dafarn?