Mi aethon ni yn ôl i'r dosbarthiadau nos heno, ar ôl saib y Pasg. Dyni bron a bod wedi cyrraedd diwedd y cwrslyfr 'Mynediad' gyda dim ond cwpl o unedau ar ôl. Dwi ddim cweit yn sicr be wnawn ni ar ôl hynny am weddill y flwyddyn. Mae 'na wrth cwrs cwrslyfr 'sylfaen' i symud ymlaen ato fo, ond mi faswn i'n licio trio cynnig tipyn o amrywiaeth hefyd trwy edrych ar adnoddau eraill sydd ar gael (rhywle gobeithio!), dwn i ddim beth yn union eto, rhywbeth i helpu adeiladu ar yr hyn sydd gynnon nhw'n barod am wn i. Mi fydd rhaid i mi feddwl o ddifri dros y cwpl o wythnosau nesa!
5 comments:
Dyna beth ein tiwtor, Ned, yn wneud trwy'r amser. Mae o'n dod i mewn efo erthyglau o 'Golwg' ayyb, a wedi gofyn cwestiynau am yr erthygl, neu ofyn i ni drafod yr erthygl, pethau fel 'na. Os wyt ti'n meddwl am bobl sy gan lai o brofiad, beth am ddefnyddio erthygl o Lingo? Gyda llaw, dw i'n hoffi golwg dy flog! Sut wnest ti hynny?
Hei Ro, Mae Blogger wedi gwella'r 'templates' sydd ar gael. Ges i e-bost a dolen i fynd ar rhywbeth o'r enw 'blogger in draft'. Rhaid i ti mynd ar 'Layout' dwi'n meddwl ac wedyn dewis 'template designer'. Mae'r holl peth yn eitha hwylus ar ôl hynny. Diolch am yr argymellion ar ran y gwersi gyda llaw, rhaid i mi ffeindio copi o Lingo Newydd.
Hiya Neil, Wyt ti'n dal i ddod i Eisteddfod y Dysgwyr nos Wener nesaf? Os dw i'n gallu cyrraedd yno, wna i ddod â chwpl o hen gopïau i ti.
Fasai hynny'n wych, os ti'n gallu, diolch am y gynnig Ro. Mi fydd 'na griw golew o Gilgwri yno gobeithio!
Efallai byddai diddordeb gyda ti yn y digwyddiad yma yn Nhreffynnon.
Oes blog/rhestr ebostio/grŵp Facebook a.y.y.b.ar gyfer dysgwyr Sir Fflint y gellir ei ddefnyddio er mwyn hyrwyddo?
Post a Comment