6.4.10

Tair awr yn ormod....!!

Cymharol bach mae'n siwr yw'r nifer o Gymry Gymraeg sy'n poeni rhy lawer am amserlen Radio Cymru.  Darlledwr at leiafrif o siaradwyr iaith lleiafrifol yw'r orsaf yn y bon, gyda'r rhan helaeth o'r rhai sy'n medru yn y Gymraeg yn gwrando ar (yn ôl y ffigyrrau gwrando) yr amrywiaeth eang o orsafoedd Saesneg sydd ar gael, ac ambell i orsaf masnachol 'dwyieithog',.. os gwrando o gwbl!

Dros y flynyddoedd dwi wedi clywed sawl dadl am y 'gwasanaeth genhedlaethol' a'i ymdrechion i fod yn bobeth i bawb, dyletswydd tu hwnt i annodd. Fel un o wrandawyr cyson yr orsaf, ro'n i'n fodlon rhoi siawns i'r newidiadau diweddaraf ar ran rhaglenni yn ystod oriau'r dydd, y rhan helaeth ohonynt sydd wedi bod yn weddol llwyddianus (o safpwynt i), ond mae trefn y p'nawn wedi dechrau troi arnaf erbyn hyn.

Does gen i ddim byd yn erbyn Eifion (Jonsi) Jones yn gyffredinol, ond mae tair awr ohono pob p'nawn yn ormod. Yn y boreau, cwta dwy awr dyni'n ei chael yng nghwmni Eleri Siôn a Dafydd Du, sioe sydd wedi bod yn chwa o awyr iach (yn fy mharn i), ac sy'n cynnig rhywfath o chwaeth cerddorol o leiaf! Gyda Jonsi dyni'n cael yr un un ganeuon Cymraeg (gan cynnwys stwff canu wlad Cymraeg amheus tu hwnt!), yn ogystal ag ambell i gân Saesneg o'r chwedegau neu at dant y cyflwynwr tybiwn i. Digon teg gallech chi ddweud, mae nhw'n targedu cynulleidfa 'pennodol' sy'n mwynhau y rheiny, ond mae tair awr yn ormod!   Gafodd cynulleidfa'r de-orllewin eu neilltio i bob pwrpas gyda diwedd eu rhaglen arbennig nhw am ran o'r prynhawn, a thueddiad Jonsi i fod yn eitha blwyfol ar adegau.

Wrth gwrs does dim pwynt cwyno heb fentro arghymell rhywbeth arall, ac mae'r ateb yn weddol syml o'r hyn a 'glywaf' i.  Pam lai rhannu'r p'nawn (hynny yw'r darn rhwng 2-5) unwaith eto?  Rhowch awr a hanner i Jonsi, ac wedyn rhywbeth ffresiach ac ifengach am weddill y p'nawn.

Mae 'na gyfle targedu cynulleidfa newydd yn ystod ail hanner y prynhawniau, gyda nifer o blant 'yn gaeth' mewn ceir eu rhieni, neu falle'n cyrraedd adre i glywed y radio yn y cefndir.  Beth am roi gynnig i un neu ddau o gyflwynwyr C2 wneud rhywbeth? Mi fasai rhywun fel Magi Dodd yn wneud jobyn dda mae'n siwr.   Ond mae un peth un sicr, dwi'n ffeindio fy hun yn diffodd y radio rhwng 2 a 5 yn gyfan gwbl yn amlach y dyddiau 'ma... fel dwedais,  pob parch iddo fo, ond mae tair awr o Jonsi yn ormod i finnau!  

2 comments:

Siân said...

Dw i'n licio'r syniad o gael rhaglen fwy ffresh at ddiwedd y prynhawn.
Dw i wedi trafod mater Radio Cymru yma - http://siantirdu.wordpress.com/2010/04/02/radio-cymru-radio-pwy/

neil wyn said...

Diolch am gyfeirio at dy flog a'r trafodaeth am RC, diddorol iawn, mae'n amwlg bod lot o bobl yn anhapus â chydbwysedd (neu diffyg ohoni) yr orsaf ar hyn o bryd.