Un o'r geiriau yna sydd fel bws yw 'Llosgfynydd'. Mi gei di dreulio amser maith heb ei weld, ond y peth nesaf mi weli di o sawl gwaith o fewn dim o amser. Geiriau annodd i gofio gallai'r rhai 'achlysurol' yma bod i ddysgwyr. Yn yr achos yma cawn ni ei dysgu'n rhwydd, am fod cyfuniad perffaith o eiriau mwy cyffredin ydy o (fel 'eirlaw' a 'daeargryn'), ac mae hynny'n gallu bod yn help mawr. Dwn i ddim faint o Gymru Gymraeg sy'n defnyddio 'llosgynydd' (neu 'mynydd tán') yn lle 'folcano', ond i ddefnyddwyr gwasanaethau newyddion cyfrwng Gymraeg mi fydd y gair yn un gyfarwydd iawn dros y wythnosau (ac o bosib misoedd), yn ól y fylcanolegwyr sy'n llenwi pob bwletin y newyddion ar hyn o bryd.
Wrth cwrs gyda straeon o'r fath, mi gawn ni hanes pob agwedd o'r 'creisis' presenol', o'r hogyn yn ei arddegau yn 'bored' yn y maes awyr, a dim ond dau 'consoles gém' i chwarae arnynt... bechod! i drigolion tref Richmond, yn dathlu'r llonyddwch sydd wedi llenwi'r awyr, ar ól i Heathrow cael ei cau i awyren. Fel arfer mae nhw'n diodde swn awyren yn sgrechian uwchben y dref pob munud a hanner trwy'r dydd.
'Mae ymyl arian i bob cwmwl du'.... wel hynny yw os nad wyti'n cynllunio hedfan dros y dyddiau nesaf!
1 comment:
oedd fy rhieni yng nhgyfraith i fod i hedfan ddoe i Fenis, ond nawr byddant yn dod i Gaerdydd am wyliau a bydda i'n cael help fy nhad-yng-nghyfraith yn dod ar wyliau i adeladu patio, felly dw i'n hapus o leia!
Post a Comment