1.2.11

Ar drywydd gwir ysbryd indiaid america...?

Erbyn hyn dwi wedi llwyddo dal cwpl o bennodau o 'Iolo a'r Indiaid Americanaidd', cyfres do'n i ddim yn rhy siwr amdano ar ól gweld y 'treilars', ac un dwi'n dal i fod yn ansicr amdano. 

Mae llawer ohonyn ni mae'n siwr yn euog o lwmpio llwythi brodorol yr Unol Dalieithau mewn un lobscows mawr, ond mae Iolo wedi bod yn teithio o un cornel America i'r llall er mwyn cyrraedd nifer o'r 'Reservations', sef y llecynau o dir sydd erbyn heddiw o dan rywfath o hunanlywodraeth rhai o'r llwythi amlycaf.

Yr wythnos yma roedd y Cherokee o dan chwyddwydr Iolo, enw sy'n fwy cyfarwydd i rai erbyn heddiw fel enw cerbyd 4x4 gyda sychder mawr!   Mae hanes y Cherokee yn eu cynefin traddodiadol, sef harddwch y 'mynyddoedd myglyd' wedi newid yn sylweddol dros y cwpl o ddegawdau diweddaraf gyda dyfodiad casino enfawr.  Yn ol pennaeth y llwyth - gwleidydd hynod o slic - cyn i gyfoeth gamblo cyrraedd, doedd fawr neb gyda thai bach tu mewn i'w tai.. fel petai.  Erbyn heddiw mae gan bawb hawl i tua £6000 y flwyddyn gan y llywodraeth (a chyfleusterau gwell), sef eu rhan nhw o elw'r casino, ac mae rhan helaeth o drigolion yr ardal yn gweithio yno hefyd.   Mae 'na bris i'w talu am y ffasiwn newid wrth cwrs, ac yn ol un o'r cyfranwyr cynydd sylweddol yn y defnydd cyffuriau anghyfreithlon yw hynny.

Ond iaith o bosib yw un o'r pethau sy'n gwneud i hanes y llwythi yma o ddiddordeb arbennig i'r Cymry, rhywbeth sy'n rhan pwysig o hunaniaith sawl gwlad bach.   Mae iaith 'Band Dwyreiniol y Cherokee' (sef y rheiny wnaeth llwyddo cuddio, wrth i weddill y llwyth cael eu hela lawr y 'trail of tears' yng nghanol y 19C)  wedi dirywio yn sylweddol o ran y nifer o siaradwyr dros y hanner canrif diwetha, gyda dim ond tua 900 yn dal i'w siarad (a'r mwyafrif o rheiny dros eu hanner cant).  Gafodd genhedlaeth cyfan o blant Cherokee eu hanfon at ysgolion preswyl er mwyn eu rhwystro rhag siarad eu mamiaith, proses a gafodd effaith marwol bron.

Ond dyni'n byw mewn oes mwy goleuedig (gobeithio!), ac erbyn heddiw mae'r Cherokee wedi agor (gyda help elw'r casino) yr ysgol cynradd Cherokee-eg(?) cyntaf (sydd gan cyfleusterau heb eu hail), er mwyn cynnig mymryn o obaith i iaith sy'n cael ei siarad gan dim ond 1% o'r poblogaeth.  Ond rhan pwysig o hunaniaith y Cherokee o hyd i'w hiaith, a dyna lle mae'r cymhariaeth á Chymru yn taro gloch.  Mae canran sylweddol o Gymry di-Gymraeg yn cefnogol i'r iaith, ac yn ei gweld fel rhywbeth maen nhw isio parhau - cyn pelled a nad ydy'r cost yn afresymol - a rhan o'r pethau sy'n diffinio Cymry fel cenedl.

Sut bynnag, dyma gyfres diddorol, ac un fydda i'n ymdrechu i wylio.

6 comments:

Emma Reese said...

Lle aeth Iolo i holi am Cherokees?

neil wyn said...

Ymwelodd Iolo á thref o'r enw 'Cherokee' yn ngorllewin North Carolina. Mae'n siomedig nad ydy'r cyfres ar gael yn fyd-eang ar y we :(

Emma Reese said...

Dylai fo fod wedi dwad i'r dref hon! Yma mae pencadlys Chrokees.

neil wyn said...

Fasai wedi bod yn wych gweld Iolo a chriw ffilm o S4C yn ymweled á dy dref di!

Gyda llaw, wyti'n gallu gweld gwefan y cyfres? mae 'na lot o luniau a chlipiau fideo yna, tybed os ydy'r rheiny'n gweithio tramor?

Emma Reese said...

Mae'r fideo cyfweliad yn gweithio (i ryw raddau) a ches i glywed Iolo. (Mae 'na doriad bob pum eiriad!)

Corndolly said...

Rhaid i mi ddweud ar ôl i mi wylio'r 2 raglen gyntaf, dwi wedi dileu'r gweddill a pheidio â recordio unrhyw mwy'r gyfres. Wnes i ddim eu mwynhau o gwbl