7.3.11

Gwaith newydd Llwyd Owen...

Mae gwasg Y Lolfa newydd cyhoeddi nofel newydd gan yr awdur ifanc o Gaerdydd Llwyd Owen. Dwi wedi darllen a mwynhau'n arw ei bedwar nofel Cymraeg eraill, ac dwi ar dan isio cael fy nwylo ar gopi o 'Un Ddinas Dau Fyd'. Mae'r nofel hon yn ddilyniant i'w nofel cyntaf, hynny yw mae'n dilyn hynt a helynt yr un prif cymeriadau ond nifer o flynyddoedd lawr y lon, ond does dim rhaid bod chi wedi darlllen y llyfr arall (Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau) i ddilyn yr un newydd.   Dwi'n edrych ymlaen!

1 comment:

Corndolly said...

Pa genre o lyfr ydy Llwyd Owen yn ysgrifennu? Gwelais i hysbyseb am y llyfr ar Facebook, o bob lle, a chofiais i weld y llun ar dy flog pan o'n i yma i weld 'dy sgetsh'. Rhyw fath o ffuglen wyddoniaeth ydyn nhw ??