18.3.11

Taith o'r ystafelloedd loceri....

Dwi wedi llwyddo llwytho'r fideo'r tro yma :)

4 comments:

Emma Reese said...

Da iawn ti! Mae'r cypyrddau'n edrych yn hyfryd (y rhai ti wedi gweithio arnyn nhw dw i'n feddwl!)

neil wyn said...

Diolch yn fawr. Mae'r newid yn fwy trawiadol gan eu bod nhw wedi cael eu esgeuluso am flynyddoedd lawer. Fydda i'n falch o weld diwedd y gwaith erbyn hyn dweud y gwir! er mae hi wedi cadw fi'n brysur dros y gaeaf.

Corndolly said...

Mae'r darn o fideo 'ma yn ddiddorol tu hwnt. Dw i wedi bod yn darllen am y drysau, wrth gwrs, am sawl mis, felly i'w gweld nhw o'r diwedd yn wych. Wyt ti'n ysgrifennu sgript cyn dechrau, neu jyst yn dweud beth sy'n dod i mewn i'th ben?

neil wyn said...

diolch Ro, ond nac ydw, dwi ddim yn gwneud sgript ond rhaid cyfadde mod i'n cymryd ychyig o 'takes'. Mae'r peth yn datblygu wrth wneud am wn i. I fod yn onest mae'n gas gen i wylio fy hun ar y sgrín, felly dwi'n trio gnweud fideo mor gyflym á phosib.