17.3.11

trafferthion efo'r rhyngrwyd...

Dwi heb cael fawr o gyfle i flogio'n fan hyn yn ddiweddar yn bennaf oherwydd y trafferthio bod ni'n ei gael ar y funud efo ein band-llydan.  Dyma pam na gweithiodd y 'cofnideo' diweddaraf, sef yr un yn y clwb golff.  Pob tro dria i ei uwchlwytho, ga i neges i ddweud bod pethau wedi mynd o'i le, hynny yw bod y cysylltiad wedi torri yn ystod yr 'uwchlwythiad'.   Mae'n ofnadwy o rwstredig efo'r cysylltiad yn mynd ac yn dod trwy'r amser.   Dwi'n ceisio rheolu pethau allan fesul un, ond mae gen i ofn mai diffygion y llinell sy'n cysylltu'r ty^ i BT gallai bod sail y problem, wrth edrych ar yr hen focs GPO sydd ar y wal.  Dwi'n methu credu bod unrhyw gwybodaeth (heb son am band-llydan hyd at 6mb) yn gallu cyrraedd trwy wifren mor hynafol ei olwg!! 

2 comments:

Corndolly said...

Mae gynnon ni'r un broblem 'ma. Mae'r llinell yn swnllyd iawn weithiau, ac dyn ni'n colli'r gwasanaethau a sawl eiliad, ond mae'n digon atal llwytho unrhyw beth i fyny. Hen weiren sy ar fai yma hefyd, siŵr o fod.

neil wyn said...

Dwn i ddim pam ond mae pethau wedi gwella dros y cwpl o ddyddiau diwetha. O'n i'n meddwl am newid cytundeb a symud y rhyngrwyd i BT (sydd gan cynnig go dda ar y funud), er mwyn iddyn nhw cael rheswm i adnewyddu'r llinell. Ar hyn o bryd dani'n talu Virgin am y galwadau a rhyngrwyd a BT am y llinell. Wela i sut eith pethau dros y wythnosau nesa.