Mi es i draw i gyfarfod 'bach' pwyllgor y dysgwyr nos iau. Mi gafodd ei chynnal yn yr un tafarn lle dwi'n mynd am sesiwn sgwrs fel arfer, felly doedd dim esgus i beidio mynd! Wedi dweud hynny mi wnes i fwynhau y profiad o bod ymhlith criw golew o siaradwyr Cymraeg. Wedi'r cyfarfod o'n i'n siarad efo boi reit glen o ardal Yr Wyddgrug sy'n dod o Lerpwl yn wreiddiol, ond ni faswn i wedi sylweddoli dysgwr (neu sgowser) oedd o heb o'n crybwyll y ffaith i fi. Trwy cyd-digwyddiad mae o'n nabod fy nhgyfnither o Ddinbych ac mae ei chwaer yn gweithio mewn llyfrgell jysd lawr y lon o fan hyn yng Nhgilgwri. Un o'r lleill yn y cyfarfod wedi bod yn y rownd terfynol o 'Ddysgwr y Flwyddyn' yn 2001, felly roedd hi'n gallu dweud ychydig am ei phrofiadau yn ystod dydd y gwobryo, un o'r pethau sydd dan sylw yn y cyfarfod.
Cyd-digwyddiad bach eraill.. o'n i draw yn IKEA yn Warrington dydd mercher ac welais i Rhian (oedd yn arfer gweithio efo Menter Iaith) a'i chwaer. Peth rhyfeddol i fod mewn canol IKEA yn sgwrsio yn y Gymraeg efo nhw, ac dim ond munud neu ddwy ar ol i mi clywed teulu arall yn siarad yr iaith. Byd bach tydi..
No comments:
Post a Comment