16.6.06

titwod


Rhaid i mi cyfadde mod i'n dyfalu lluosog y gair titw yma, ond erbyn iddyn ni gosod y cibyn neu 'husk' 'ma yn yr ardd ar y llinell dillad dyni wedi weld pob math o ditw (neu 'yswidw') yn bwyda arno. Dwn i ddim fawr am adar o gwbl a deud y gwir, ond yn ol fy Nhad sy'n dipyn o 'adarwr', dyni wedi weld 'yswidw mawr', 'yswidw penddu' a 'titw tomos las' fel yr un yn y llun yma. Dwi'n wrth fy mod efo enw arall wnes i ddarganfod i'r 'tomos las, sef 'glas bach y wal', sy'n enw mor ddisgrifiadol.
Yr unig adar eraill sy'n ymwelwyr cyson i'r ardd ydy 'adar du', 'colomenod wyllt', ac ambell 'adar y to'(sparrow) sy'n bellach go brin ym Mhraydain credwch neu beidio.

1 comment:

James said...

Y camera newydd yn tynnu lluniau gwych. Hardd yw aderyn ar y goconyt.