28.6.06

Stori Fer

Dwi newydd dod o hyd y stori fer yma, mi sgwennais ar gyfer cystadleuaeth yr Academi i ddysgwyr llynedd. Wel mi fethais i ennill unrhywfath o wobr amdanhi yn y pendraw (nid hyd yn oed llwy bren..), felly waeth i mi postio'r peth fan hyn. Erbyn hyn mae'n edrych eitha gwan i mi, ond dyni'n dysgu trwy'r amser...

Tu hwnt i'r Bont

Tynheuais fy nghafael ar yr olwyn wrth i mi deimlo'r gwyntoedd cryfion yn siglo'r cerbyd. Baswn i wedi rhyfeddu ar wifrau a choncrit y bont grog efallai, ond ar y noson wael yna arhosais fy llygaid ar y lon yn unig. Hanner munud yn ddiweddarach roeddwn i wedi cyrraedd lloches y lannau. Dilynais y llinell gwlyb oren rhwng y ffatrioedd a phentrefi ar hyd yr arfordir. Nid oedd y creithiau diwydiannol mor amlwg o adre, ond roedd ochr arall yr aber bron yn lle diarth i mi.

Heb cyfeiriadau da, mi faswn i ddim wedi dod o hyd y lle o gwbl. Doedd dim arwydd lliwgar neu oleuadau llachar o'r math arferol, dim ond enw wedi ei gerfio yn sobwr mewn gwyneb llwyd y wal. Petrusais o flaen y drws culagored am eiliad, fy nhy mewn yn corddi. Anadlais yn ddwfn a'i wthio yn bendant.

Trodd dim ond cwpl o bennau wrth i mi camu tu mewn. Roedd hi'n dafarn bychan. Eisteddodd rhai hanner dwsin o yfwyr wrth amrywiaeth o fyrddau bach, tra safodd cwpl eraill wrth y bar. Trwy drws isel i'r dde mi allwn i weld cornel o fwrdd pwl. Mewn cornel y 'lolfa' darlledodd teledu enfawr rhyw opera sebon Saesneg heb tynnu llawer o sylw. Cerddais i at y bar. Edrychodd y perchennog i fyny o'i bapur a nodiodd ei ben.
"Half a bitter please" meddai fi, cyn gofyn yn betrusgar, "Am I in the right place for the 'Welsh Club'?"
"Through there mate" meddai fo, yn cyfeirio ei lygaid tuag at y drws isel. Teimlais i gymysg o ryddhad a nerfusrwydd. Talais i'r 'landlord' a chodais fy nhiod cyn cerdded trwy'r drws.


Eisteddodd yn dawel chwech neu saith o bobl o gwmpas bwrdd pwl. Sylwodd un ohonyn ar fi'n sefyll wrth y drws,
"Y Clwb Cymraeg?" holais i'n obeithiol.
Gwenodd o'n yn groesawus cyn gyflwyno ei hun mewn Cymraeg gofalus. Tynnais i stol at cornel gwag y bwrdd ac eisteddais i lawr. Wedi eiliad neu ddau o ddistawrwydd lletchwith, mi holodd un o'r lleill "Have you come far?" cyn ychwanegu tra chwerthin "I've no idea how you say that in Welsh!".

Roeddwn i wedi dod yn bell. Nid mor bell ar hyd y lon mewn gwirionydd, ond sylweddolais y noson yna pa mor bell roeddwn i wedi dod yn fy menter yn y Gymraeg.

Cyrhaeddodd trefnydd y clwb cyn bo hir, a dechreuodd noswaith o sgwrs a dysgu anffurfiol. Wedi ddwy flynydd o astudio ar ben fy hun, ac o flaen sgrin y cyfrifiadur, roeddwn i'n cael cyfle i gyfarfod a rhannu tipyn o hwyl efo dysgwyr eraill.
Basai hi wedi bod yn haws o lawer i aros yn y ty ar y noson yna, ond mewn lleoliad mor annhebygol, mi ddechreuais i weld gwerth yr ymdrych i gyd.

Erbyn i mi gadael roedd y storm wedi mynd heibio. Ymddangosodd strwythyr anhygoel y bont wedi ei oleuo yn glir yn y pellter. O'r diwedd roeddwn i wedi cael cipolwg tu hwnt i'r bont.

No comments: