13.6.06

Dwi ddim wedi cael fawr o egni er mwyn sgwennu y wythnos yma. Rhwng gwilio ambell gem Cwpan y Byd (dwi'n disgwyl fy 'Siart Ar y Marc' o hyd), peintio'r ystafell gwely a gweithio dwi wedi teimlo blino yn rhacs yn y tywydd poeth. Siwr o fod fasai rhai pobl yn y byd yn chwerthin ar ein pennau yn son am 'dywydd boeth' fel y mae hi yma ym mhrydain, ond mae'r lleithder sy'n dod a'r haul yn tueddi o sugno dy egni tra wneud gwaith corfforol. Sdim syndod mai'r timau o wledydd poeth yn chwarae eu peldroed mewn dull wahanol iddyn 'ni'.

No comments: