Mae rhaid i fi ymddiheuro os mai'r blog yma yn dechrau cael golwg o 'flog peldroed' arni hi, ond mae'n well i flogio am rhywbeth na dim byd 'tydi?
Yn ol yr ystadegau, mi rhodd dafarnwr y gem rhwng Portiwgal a'r Iseldiroedd un ar hugain o gerdiau melyn allan neithiwr, felly cerdyn melyn ar gyfer bron pob un o'r 26 'foul' yn y gem! Ystadeg warthus ydy hyn, a'r canlyniad (sef gem naw yn erbyn naw) oedd tystoliaeth i'r ffaith mi gollodd o reolaith dros y gem yn gynnar iawn yn ystod y nos. Mi ddechreuodd y gem yn addawol iawn efo'r dau tim yn edrych safon uwch na'r tim s'yn eu disgwyl amdanyn nhw yn y gemau'r wyth olaf. Ond siwr o fod mi drodd pryderon Lloegr i chwerthin, wrth i Portiwgal cael eu gwanhau gan anaf difrifol i Ronaldo, a cherdiau coch i'r eraill. Ddylai Figo wedi gweld coch hefyd, tasai'r dafarnwr wedi ei weld o'n taro ei ben yn erbyn un o'r 'Iseldirwyr', gawn ni weld os oes digon o ddewrder gan FIFA i weithredu ar y lluniau teledu sydd ar gael.
Mae gan Loegr siawns go iawn rwan i guro Portiwgal 'hanner cryfder' er mwyn ennill lle yn y 'semis', a chyfarfod efo'r Ronaldo 'mawr'a'i griw!
No comments:
Post a Comment