19.7.06

diwrnod ymarfer olaf


Vijay Singh yn ymarfer ar y pedwaredd gwyrdd y bore 'ma


Golffwyr dwi ddim yn nabod...

Dwi ddim yn genfigenus o'r rheiny wnath talu £25 er mwyn gwylio'r diwrnod olaf o ymarfer lawr ar lincs crasboeth 'Hoylake' heddiw, does dim llawer o gysgod ar gael o gwmpas y cwrs i'r torfeydd mi wnes i weld teithio lawr yna o'r bysiau a threnau. Mi fasai'r gwres uchel (sy'n debyg o dorri cofnodi erbyn diwedd y dydd) yn gwneud y profiad un eitha anghforddus 'swn i wedi meddwl. Ta waeth, mi wnes i dynnu ychydig o luniau trwy ffens y cwrs ar y ffordd i'r gweithdy y bore 'ma, lle dwedodd plismon debyg bod yn cerdded heibio: 'These are the cheap seats are they'!
Yn ol pob son mae ychydig o wynebau 'enwog' wedi bod yn y dref dros y wythnos, gan cynnwys Michael Douglas, Catherine Zeta Jones, George Clooney (a chafodd peint yn y 'Ship' nos lun!)a Robbie Williams, heb son am y tywysog 'Andy'. Mae lot o bobl wedi bod yn crwydro dafarndai y pentref er mwyn cael cipolwg o wynebau cyfarwydd eraill, falle fydd hyd yn oed Elvis yma....
Mae rhagolwg y tywydd am wedill yr wythnos yn son am fellt a tharannau dros nos (a thymeryddau ychydig yn is diolch byth) ond dim lot o wynt, sy'n debyg o siomi y 'Royal Lerpwl' yn arw. Mae'r 'Tiger' yn son yn barod am dorri ei record ei hun gan bod y cwrs yn eitha hawdd, ond gawn ni weld...

No comments: