20.7.06

y seddi rhad

Woods a Faldo yn sefyll mewn canol y dorf ar yr ail 'tee',

O'n i'n eistedd yn 'seddi rhad' yr Open unwaith eto heddiw, hynny yw sbio dros ffensiau y lincs. Diwrnod cyntaf y cystadleuaeth go iawn oedd hi heddiw, felly mi gafodd llwythi o bobl yr un syniad, ond er hynny, roedd hi'n posib cael weld cipolwg bach o Tiger a Faldo, prif atyniad y rownd. Dwi wedi clywed trwy 'ffynhonellau debyniol' bod Tiger yn aros dros y ffin yn lle Michael Owen (sef ei stad ger Sychdyn rhwng Queensferry a'r Wyddgrug), sy'n gwneud synnwyr mewn ffordd, achos dim ond taith o ddeuddeg milltir 'fel yr hed y fran' ydy hi. Yn wir neu beidio, mae ei hofrenydd o'n glanio pob dydd ar y 'helipad dros dro' wrth ymyl i'r cwrs.


Sbio trwy'r ffens ar Tiger

Dwi'n ystyried talu dros mynd yfyory neu dydd sadwrn, ond mae gen i ffrind sy'n trio cael gafael ar ba^r o docynnau yn rhad ac am ddim, gan bod ei frawd yng nghyfraith wedi cael llond llaw o docynnau 'corporate hospitality' trwy ei gwmni. A dweud y gwir dwi wedi clywed yr un peth o'r blaen, felly 'seeing is believing' (oes 'na dwediad Cymraeg sy'n golygu'r un peth?).

No comments: