14.7.06

Rownd golff y Tywysog...

Efo'r 'Open' ar fin dechrau, mi ddaeth y tywosog Andy (Llwydd y Clwb) draw i'r cwrs yn Hoylake heddiw er mwyn cael rownd slei ar y lincs cyn i'r cystadleuaeth. Digwydd bod roedd fy ffrind yn gweithio yn y 'stafell fwrdd' wrth i Andy 'tio ffwrdd', ond wps, aeth o'n syth i'r ryff efo pawb yn gwylio yn y bar... Yn ol pob son mae'r hen gwrs yn andros o anodd, yn enwedig ar ol cael ei gosod ar gyfer yr Open. Dwi'n bwriadu mynd dydd Sul yma (y ddiwrnod ymarfer cyntaf) am £5, jysd er mwyn cael cip ar y cwrs, a'r pentre o bebyll sy' wedi tyfu o'i gwmpas. Mae'r cost yn codi yn aruthrol o ddydd llun ymlaen (£25), ac wedyn £50 ar dyddiau y cystadleuaeth ei hun. Mae'n well gen i weld ambell awr ar y teledu na talu cymaint a hynny.

No comments: