23.7.06

fy mhost olaf am y golff....yn wir



Wel mae popeth wedi dod i ben wedi wythnos o syrcws y golff. Mae'n noson perffaith ar rhan y tywydd efo machlud braf, ac mae tafarndai Hoylake yn llond dop o yfwyr, bywiog a meddwi. Mi aeth fy merch a fi lawr i'r cwrs tua hanner y dydd i weld digwyddiadau y dydd datblygu wrth i'r athrylith o golff Tiger Woods ennill y dydd heb siglo unwaith ar y taith. Dim ond ar ddiwedd ei rownd wnaethon ni dechrau deall pa mor bwysig oedd y peth iddo fo, sef y cystadleuaeth cyntaf mae o wedi ennill ers i farwolaeth ei Dad. Doedd o ddim wedi dangos unrhyw fath o deimladau i'r cyhoedd dros yr wythnos cyn torri lawr mewn breichiau ei gadi a'i wraig ar ol suddo ei 'bwt' olaf ar y deunawfed gwyrdd. Mae hi wedi bod pencampwriaeth a wythnos cofiadwy.



Woods ar ben ei hun mewn canol y dorf

No comments: