21.7.06

Rhuodd y Teigr..

Dyma Tiger yn gadael y cwrs yn cael ei holi gan y cyfryngau. Dim ond eiliadau ar ol i mi dynnu y llun yma mi wibiodd cwpl o fechgyn hebio i'r dynion diogelwch er mwyn gofyn am lofnod Woods oedd yn dringo ar fwrdd bwgi golff. Mewn fflach mi gafodd y bechgyn ei gwthio o'r neilltu wrth i un o'r 'bownswyr' yn gweiddi 'GO, GO,' wrth gyrwr y cerbyd bach trydanol. Nad ydy 'getaway' yn edrych mor gyffrous mewn bwgi golff efo cyflymder uchaf o 10mph a dweud y gwir....



O dan awyr las perffaith yr haf, mi lwyddodd Woods i ddofi'r lincs crasboeth unwaith eto, gan cynnwys 'eryr' roedd pawb bron yn methu credu. Doedd ganddo fo ddim golwg o'r gwyrdd wrth iddo fo taro ei ail ergyd ar y twll 'par' 5, ond wrth iddo fo clywed swn y galeri yn rhuo, mi drodd ei wyneb i we^n enfawr. Doedd neb yn edrych yn debyg o herio sgor Tiger nes i Els dechrau taro 'birdies' yn gyson, yn gorffen ei rownd dim ond un ergyd yn waeth nag Woods, felly mae gynnon ni penwythnos ardderchog o golff i ddod.

No comments: