25.7.06

Golwg

Dwi newydd mynd ati i danysgrifio i'r cylchgrawn wythnosol 'Golwg'. Fel rhywun sy'n darllen y peth ambell waith (pan dwi'n digwydd bod mewn Tescos Yr Wyddgrug fel arfer, felly dim yn aml iawn), o'n i'n meddwl bod cael rhywbeth i ddarllen, sy'n glanio ar mat y drws pob wythnos, yn gynhorthwyol ar rhan fy Nghymraeg. Dros yr haf mae gen i lai o gyfleoedd i fynd i'r sesiynau sgwrs a dweud y gwir, ac er o'n i'n darllen cryn dipyn o Gymraeg ar y we, dwi'n ffeindio darllen ar y sgrin gwaith galed weithiau. Ar rhan darllen llyfrau, dwi'n eu ffeindio nhw'n eitha galed i gael ynddyn nhw fel petai, felly fydd Golwg jysd y peth gobeithio.

No comments: