8.7.06

'Improve your Welsh'

Mi ges i anrheg bach oddi wrth ffrind sy wedi weld y peth mewn siop elusen Oxfam heddiw. Yr unig problem ydy sgen i ddim chwaraewr LP's rwan, felly fydd rhaid i mi mynd a'r hen 'vinyl' i ty fy Mam er mwyn ei wrando. Mae'n anhygoel pa mor hen ffasiwn mai LP's yn edrych erbyn hyn, a dweud y gwir doedd fy merch naw oed ddim wedi weld y ffasiwn peth o'r blaen.

Yn ol y clawr, gafodd y LP ei cynhyrchu gan y BBC yn 1967 i fynd efo cyfres o wersi ar y BBC Welsh Home Service, felly dyni'n mynd yn ol i'r dyddiau cyn BBC Wales neu BBC Cymru dwi'n meddwl. Wedi bron 40 flynedd roedd pris Oxfam bron yn union yr un pris a'r pris ar y clawr, sef £1 ! Dwi'n edrych ymlaen...

No comments: