28.10.08

Dewi ar daith...

Mi wyliais raglen diddorol iawn heno wrth i Dewi Llwyd mynd ar daith o Cardiff-by-the-Sea yng Nghaliffornia i Fangor, Pensylvannia. Diben y daith wrth rheswm (yn cofio agosatrwydd diwrnod pleidleisio yr Unol Daleithiau) oedd cael rhyw flas o deimlad pobl y wlad rhyfeddol hon ynglŷn â'r dewis o'u blaennau nhw, ac yn enwedig rhai o'r Cymry sydd wedi ymgartrefu yna. Fel gwlad sydd wedi derbyn miliynau o fewnfudwyr dros y canrifoedd, does dim syndod mi ddoth Dewi o hyd i ddigon o Gymry, hyd yn oed yn y corneli mwyaf anghysbell y wlad, ond mi gawson ni gyd ein syfrdanu mi faswn i'n meddwl clywed teulu o Las Vegas, a'r plant i gyd yn cael eu magu ar aelwyd Cymraeg gan merch o Aberystwyth a'i gwr, milwr Americanaidd, sydd erbyn hyn yn siarad Cymraeg yn rhugl. Falle y peth mwyaf dychrynllyd (wel i mi beth bynnag), oedd gweld hogyn o Amlwch, sydd wedi llyncu'r breuddwyd Americanaidd yn ôl y cipolwg a welom ni, 'lock, stock a smoking barel'. Fel 'dyn diogelwch' rhywle yng Nghaliffornia pell, mae o'n wrth ei fodd gyda'r 'diwylliant dryllau' sy'n cael ei gweld gan sawl fel hawl dynol. Fel cyn bleidleisiwr Ieuan Wyn Jones ar Ynys Môn, roedd ei drawsnewidiad i gefnogwr brwd y Weriniaethwyr ac 'arfau di-ri' ar y strydoedd yn annodd coelio, ond wedi dweud hynny, mae'n peth da falle mae 'na wlad o'r fath iddo fo i symud iddi hi.. pob lwc iddo fo yn ei wlad mabwysiedig, siwr o fod mae Amlwch yn lle saffach o lawer yn sgil ei ymadawiad..!

Mi gafodd Dewi Llwyd y cyfle hefyd i ddefnyddio ei Sbaeneg rhugl yn 'Mecsico Newydd', yn rhai lefydd yna mai siaradwyr Sbaeneg yw'r mwyafrif o lawer, ac roedd hi'n braf cael gweld rhywfaint o'r amrywiaeth eang sy'n bodoli mewn gwlad dyni'n ei gweld yn 'unochrog' weithiau. Er dwi wedi cael llond bol o'r holl etholiad erbyn hyn (diolch i'r BBC am hynny) llongyfarchiadau i S4C am wneud rhaglen mor ddiddorol ar ei gefn.

6 comments:

Nic said...

pob lwc iddo fo yn ei wlad mabwysiedig, siwr o fod mae Amlwch yn lle saffach o lawer yn sgil ei ymadawiad..!

Hehe. Mae hyn yn f'atgoffa fi o'r linell yn un o lyfrau Garrison Keeler (dyfynnu o'r cof): Some people even decide to leave Lake Wobegon and move to the Twin Cities permenantly, leading to a rise in the average IQ of both communities."

Chris Cope said...

Mae yna duedd ymhlith pobl Prydain i osod eu hunain uwchben Americanwyr oherwydd diffyg drylliau ond y ffaith yw, maen nhw'n dwli ar y pethau mor fuan â bo cyfle.

Meddwl random, pam mae pobl yn ysgrifennu "Califfornia" ond nid "Pensylfania?" Rydw i'n meddwl yn ddiweddar am bethau fel hyn oherwydd cyfeiriaf at bethau Americanaidd cymaint. Ai ddylwn i ysgrifennu "Tecsas" yn lle na "Texas?" "Minesôta" yn lle na "Minnesota?" Ac ati. Mae'n beth i feddwl amdano.

Hefyd, pam ysgrifennu "Ciwba" yn lle na "Cwba?" Mae'r cyntaf yn sillafiad Cymraeg o ynganiad (anghywir) Saesneg o'r olaf. Os nad ydym ni'n siarad y Saesneg, pam ddefnyddio ei synau?

Sori, rydw i'n crwydro.

Nic said...

Wyt, a diolch byth am hynny.

Diddorol am sillafiad y taleithau. Califfornia byddwn i'n sgwennu, a Tecsas hefyd, mae'n debyg, ond sa i'n credu i mi Gymreigio enwau eraill. Dyw e ddim rhywbeth dw i wedi meddwl amdano.

Dyw Wicipedia ddim yn gyson. "Efrog Newydd" ond "New Hampshire".

Pwynt da am "Ciwba", ddo. Mae hynny'n hurt.

neil wyn said...

Pwynt dda Chris, ond dwi'n cofio sbio ar Atlas Cymraeg unwaith, roedd yn perthyn i fy Nhaid a chyfrol a gafodd ei argraffu cyn i 1846 dwi'n credu, gan gafodd Califfornia ei dynodi fel rhywle ar wahan i weddill yr UDA. Dwi'n meddwl o dan reolaeth Mecsico oedd Califfornia cyn hynny (cofiwch,dim ond hanes niwlog sydd gen i!), ond yn ôl hen Atlas fy Nhaid o leiaf, rhwle wnath haeddu syllafiad Cymraeg. Mae'n pwynt digon teg am Tecsas ac ati, pwy a wir. I fod yn deg, ddylen ni fod yn cychwyn efo llefydd fel Byrmungham...?

Rhys Wynne said...

Gwyliais i hwn hefyd. Fel rhaglen am wleidyddiaeth roedd yn wastraff arian, petrol ac amser llwyr (a dw i'n meddwl bod Dewi Llwyd yn cytuno). Roedd y scyfweliadau mor fyr ac arwynebol, eg eithrio'r un gyda'r tad a gollodd ei fab.

Mae'n rhaid bod Dewi druan isio taro'i ben yn erbyn y wal yn Ohio pan ddwedodd y ddynes bod hi am bleidleisio am pwy bynnag doedd y gwr heb, er mwyn ei ganslo fo allan

Ond o'r ochr "sbiwch ar y bobl na yn America'n siarad Cymraeg!" roedd yn raglen da. Pwy fuasain meddwl bod yn fam (i 5 o blant?0 yn Las Vagas yn dysgu ei phlant drwy 'home-schooling' drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yr unig beth sydd ar ôl i ni wenud rwan ydy penderfynu sut dan ni am rwystro'r holl Americanwyr yma rhag dod drosodd i fan hyn a difetha'n sefydliadau addysg uwch ni cyn i bethau fynd rhy bell ;-)

Anonymous said...

You could easily be making money online in the undercover world of [URL=http://www.www.blackhatmoneymaker.com]blackhat backlinks[/URL], It's not a big surprise if you don't know what blackhat is. Blackhat marketing uses alternative or misunderstood methods to produce an income online.