25.9.09

amser am hunangofiant...

Ar ôl i mi fwynhau cwpl o nofelau Cymraeg dros yr haf, penderfynais droi at hunangofiant am dipyn o newid. Mae 'na ychydig sydd wedi tynnu fy sylw dros y flwyddyn diwetha, y rheiny gan Meic Stevens, Ray Gravell (cofiant wrth cwrs yw hyn),a Nigel Owens (y dafarnwr rygbi hoyw) i enwi 'mond ychydig. Ond ar ôl iddyn ni gyfarfod Rhys Mwyn ar lethrau'r Wyddfa dros yr haf , penderfynais mynd am ei lyfr o, Cam o'r Tywyllwch .

Hyd yn hyn llai na chwater o'r llyfr dwi wedi ei ddarllen, ond dwi'n eitha fwynhau hanes y cyn pync rocwr o Sîr Drefaldwyn. Mae'n annodd dychmygu riot yn Llanfair Caereinion, ond dyna be digwyddodd pan drefnodd Mwyn gig punk mewn ystafell cefn un o dafarndai'r pentref. Efo llond bws o punks o'r Amwythig yn llenwi'r lle, does fawr syndod efallai i'r peth cicio ffwrdd, ond roedd Rhys ar fin gadael pentref ei blentyndod beth bynnag, felly siawns doedd fawr o ots ganddo fo. Er Gymro Cymraeg digon amlwg y dyddiau 'ma, mae Rhys Mwyn wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn y sefydliad Cymraeg ers ei ddyddiau Coleg. Mae hynny'n wneud i'w hunangofiant bod yn un ddiddorol ac onest, byth yn sâff. Mae o wedi treulio blynyddoedd yn pechu pobl, ond nad ydy o'n dwâd drosodd fel person cas. Am berson sy'n cysylltuedig ag anarchyddion y byd pync, a wnaeth 'canu' wrth cwrs mewn grŵp o'r enw Yr Anrhefn, mae o'n ymddangos i fod yn unigolyn andros o drefnus a chryf ei gymhelliad, ac o'r hyn a brofais ger Lanberis yn yr haf boi digon glên.

2 comments:

Nic said...

Anhrefn yw'r drefn, beth bynnag mae'n dweud ar y wal yn Nhalybont. :)

Heb ddarllen llyfr Rhys Mwyn fy hunan, ond mae gen i gof ohono fe yn troi i fyny'n hwyr i ŵyl roc wrth-apartheid yn Wrecsam yn yr 80au gyda'r band, a chwyno bod fy hen fand innau wedi cael eu slot nhw ar y bil. Oedd sôn am "linguistic apartheid", gan fod ein band ni'n canu'n Saesneg. Hilarity ensued.

Os dw i'n cofio'n iawn, oedd yr Anhrefn wedi mynd i'r feniw anghywir. Wel, Anhrefn oedd eu henw.

Wedi dweud hynny i gyd, mae'n hollol bosibl mod i ddim yn cofio'n iawn. O'n i wedi bod ar y Merrydown trwy'r dydd, yn "paratoi". Roc a rol.

neil wyn said...

Doniol iawn, does dim son am y digwyddiad yn y llyfr wrth cwrs, ond gei di ddim dy synnu... Dyna'r peth da am 'hunangofiant', ti sy'n dewis be' i gofio! Ta waeth, mae'n llyfr darllenadwy iawn, a finnau heb wybod llawer am sîn yng Nghymru amwer hynny, er mae hi'n son am gyfnod a grwpiau dwi'n cofio'n iawn o Loegr.