Weithiau mae rhywun yn meddwl am y pethau rhyfeddaf tra gyrru, wel dwi yn beth bynnag! Mae 'nhw'n dweud gweithgaredd 'eilradd' neu secondary yw'r gyrru erbyn hyn, ac mae'r ymenydd yn brysur meddwl am bethau sy'n hollol ar wahan i'r gweithred o lywio'r cerbyd ti'n eistedd ynddi! Heddiw felly ffeindiais fy hun yn meddwl am air, gair hollol ar hap am wn i, y gair 'eww', os oes 'na ffasiwn gair!
Fedra i ddim gweld fy hun yn dweud 'eww' tra siarad Saesneg, ond be dwi'n dweud i olygu'r un un peth?
Pe taswn i i fod person o Swydd Efrog, "Eeee" faswn i'n dweud hwyrach? ond be'am yn fy nafodiad i, sef sgows gogledd Cilgwri. Y peth gorau fedra i feddwl amdano yw "goh.." e.e. "Goh.. your jokin me arn't yuh", neu "Goh.. would you believe it".
Ond fel dwedais, weithiau mae rhywun yn meddwl am y pethau rhyfeddaf yn y car....
1 comment:
Ti wedi anghofio 'Eee By Gum' yr un enwocaf, dw i'n meddwl ! :-) Dw i'n gwneud yr un peth wrth yrru (a phan dw i'n ceisio adolygu pethau ar gyfer cyrsiau hefyd, rhaid i mi ddweud). Dylwn i fod yn canolbwyntio ar y ffordd, wrth gwrs, ond ydw i, ond mae fy meddwl yn tro at bethau twp ar yr un pryd. Bron fel dw i'n gyrru ar 'beilot awtomatig' ydy o.
Post a Comment