27.9.09
Cip newydd ar un o 'ngyndeidiau...
Dwi wedi ysgrifennu yma o'r blaen am y gôlgeidwad enwog, Leigh Richmond Roose, wnaeth chwarae dros Cymru a nifer o glybiau mawr yn ôl yn negawdau cynnar yr hugainfed canrif. Cefnder (wedi ei symud unwaith - once removed) fy Nhaid oedd o, ac yn ei ddydd un o wynebau mwyaf adnabyddus y byd chwaraeon ym Mhrydain Fawr.
Digwydd bod, yr wythnos 'ma, ges i e-bost gan fy Mam, yn fy ngyfeirio at y llun sydd ar dop y cofnod hon. Mae'n wych o lun sy'n dod oddi ar gerdyn sigaret, un a wnaeth gymar fy chwaer baglu drosti wrth chwilio ar y we am stwff i wneud ag Everton, ei glwb o, ac un o glybiau wnaeth L.R. Roose chwarae drostynt.
Ar yr un un ddiwrnod, dyma fi'n mynd ar wefan Golwg360 pan welais i stori am restr o'r deg chwaraewyr gorau gafodd Cymru erioed. 'na sy'n digwydd, achos pwy oedd ar dop y rhestr (mae'r rhestr yn dechrau efo rhif deg!), neb llai na L.R. Roose!
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
2 comments:
Bydd rhaid cael erthygl amdano ar y Wicipedia. Dos dim un eto, ond mae dau gyfeiriad ato yn bodoli'n barod
ar erthyglau 'CDP Aberystwyth' a 'Genedigaethau 1877'.
Os oes diddordeb gyda ti ond dwyt ti ddim yn siwr sut, yna gallaf greu'r erthygl, a galli di ychwanegu ato dy hun.
O ble gest ti afael ar y delwedd ohono?
Dyma'r dolen i'r wefan o le ddoth y llun 'The Everton Collection' yw'r enw.
Taset ti'n fodlon creu'r tudalen mi faswn i'n hapus ychwanegu rhywbeth ato :) Mae ei hanes yn un hynod o ddiddorol, ac roedd fy nhaid yn ei gofio fo'n dwâd draw i ymweld â'r teulu ym Mhenbedw.
http://www.evertoncollection.org.uk/object?id=796+EFC%2f27%2f172&p=1&q=roose#title
Post a Comment