2.9.09

Dr Beeching tybiwn i....

Ar ôl i'r taith ardderchog i ucheldir Cadair Idris dydd sadwrn, mi deimlom ni fel gwneud rhywbeth ychydig yn fwy hamddenol y ddiwrnod wedyn, felly ffwrdd â ni am dro ar Lwybr Mawddach. Gafodd y Llwybr ei adeiladu ar ran o hen reilffordd Y Bermo i Riwabon, ac mi reidiom ni'r 'trail' ar gefn beic pan oedd Miriam yn dal i ddigon bach i ffitio mewn i'w threilar (tua 9 mlynedd yn ôl 'swn i'n meddwl).



Pont Y Bermo yn ei holl gogoniant (nid fi tynnodd y llun hwn rhaid cyfadde..)

Mi gafodd y rheilffordd hwn ei gau i deithwyr yn 1965, fel rhan o gynllun Dr Beeching, a gadawodd talpiau mawr o Brydain 'di-drên'. Gwibdaith hynod o olygfaol mae'n siwr roedd y taith i fyny Glyn Dyfrdwy ac i lawr i arfordir Bae Ceredigion, ac erbyn heddiw gallen ni flasu tipyn bach o'i fawredd o dan stêm Rheilffordd Llangollen, neu ar drên bach Rheilffordd Llyn Tegid. Yn yr 'hinsawdd' sydd ohoni heddiw, mae'n annodd deall penderfyniadau Beeching. Mi gafodd y peirianydd o ICI ei benodi gan y Llywodraeth fel cadeirydd 'British Rail', a gafodd ei dalu dwywaith cyflog y Prifweinidog, i gyflawni ei ddyletswydd o ail-strwytho'r rheilffyrdd (hynny yw arbed arian!). Maint pitw oedd y swm a gafodd ei arbed wrth edrych yn ôl, a pwy a wŷr be' oedd y colled tymor hir i economiau'r cymunedau wnaeth colli eu cysylltiadau rheilffyrdd (mewn cyfnod pan oedd llai na pumtheg y cant yn biau ceir ym Mhrydain). Ond rhyfedd o beth yw hindsight 'tydy?

Diolch byth gafodd y boi Beeching ei hel yn ôl i ICI cyn wireddu rhan dau o'i gynllun mawr yn ei cyfanrwydd. Dymuniad Beeching ar ran reilffordd Cymru oedd i gau pob un lein ar wahan i'r gysylltiad o Abertawe trwy Gaerdydd i Loegr. Credwch neu beidio, mi fasai pob un gwasanaeth ar hyd arfordir y Gogledd a thrwy'r Canolbarth wedi dod i ben o dan ei gynlluniau i 'foderneiddio', yn ogystal â miloedd o filtiroedd o reilffyrdd eraill dros Prydain Fawr, oedd wedi goroesi ei fwyell cyntaf.

Ond diolch i Dr.Beeching cawn ni fwynhau sawl hen rheilffordd ar gefn beic neu ar droed erbyn hyn. Mae'r Llwybr Mawddach yn ymestyn tua wyth milltir o Ddolgellau, ac mae'n rhaid bod hyn yn un o'r 'llwybrau hen rheilffyrdd' hyfrytach ym Mhrydain (hyd yn oed yn y glaw fel a brofon ni hi'r tro 'ma!). Ar ôl cyraedd diwedd y llwybr ger orsaf Morfa Mawddach (ar y linell o Bwllheli i Fachynlleth), gewch gwobrwyo eich hun am eich ymdrechion efo'r taith dros Pont y Bermo, ac wedyn hufen iâ a sglodion 'glan y môr' yn 'Y Bermo-ingham' ei hun!

Yn y pendraw mi gerddom ni o Lynpenmaen i'r Bermo ac yn ôl, taith o 14 milltir (tipyn gormod yn y glaw rhaid dweud). Y ddiwrnod wedyn felly, mi grwydrom ni lawer i orsaf Llanuwchllyn (sy'n llai na milltir o'r Rhyd Fudr) er mwyn dal y trên bach i'r Bala a gwneud ychydig o siopa a 'thwristio'.. jysd y peth ar gyfer traed blinedig!

4 comments:

Corndolly said...

Wel rhyngddot ti ac Emma, mae hiraeth gennyf am y mynyddoedd ac arfordir Cymru.

Emma Reese said...

Roedd na reilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin cyn i'r fwyell ei thorri hi allan felly! Mi fasai hi wedi fod yn hwylus iawn pan ôn i'n teithio o Aber i Gaerdydd ddwy flynedd yn ôl. Roedd rhaid i mi fynd ar y bws i Gaerfyrddin, yna dal y trên i Gaerdydd achos mod i ddim isio diodde'r daith fws gymerai 4 awr.

People's Front of Judea said...

Ruskin I think it was, who said;
'There is only one greater walk than that between Barmouth and Dolgellau, and that is the walk between Dolgellau and Barmouth'.
Would this be the Precipice Walk?
I should have used 'Abermaw' I realise! (ace quote though).
Dw i wedi esiau yn dweud yn cymraeg
ond dw i ddim wedi medru.Mae'n ddrwg gen i.

neil wyn said...

Yndy, 'Y precipice walk' dwi'n meddwl. Dwi erioed wedi (i've never) cerdded y llwybr yna, un ddiwrnod gobeithio, a nid (not) yn y glaw!