8.9.09

Codi Nyth Cacwn?

Ges i fy ngwahodd cyfrannu at raglen Taro'r Post y p'nawn 'ma, am fod un o bynciau'r rhaglen yn ymwneud â Dysgwr o Lannau Mersi. Yn ôl yr ymchwilydd a ffoniodd mai dysgwr o Lerpwl wedi bod yn sgwennu at nifer o gyhoeddiadau yn cwyno am y ffordd mae o wedi cael ei drin gan Cymry Lerpwl, Cymdeithasau Cymraeg ac ati, Y parchedig Dr Ben Rees hyd yn oed, 'pencampwr' Cymry Lerpwl ers degawadau. Does gen i fawr o brofiad o gymdeithasau Cymry Lerpwl rhaid i mi ddweud, ar wahan i gyfarfod Ben Rees mewn cyfarfod S4C yn y ddinas tua flwyddyn yn ôl (boi andros o glên hyd a welais i), felly doeddwn i ddim yn gallu cynnig sylw uniongyrchol ar yr hyn mae'r boi o Everton wedi cwyno amdano, ond cytunais son am 'mrofiadau i'n cyffredinol am ddysgu ochr yma i'r ffîn. Fel sy'n digwydd yn aml iawn tra siarad yn fyw ar y radio, mi gollais ambell i air, a ni ddwedais lot o bethau meddyliais i amdanynt ar ôl i'r cyfweliaid dod i ben! Dwedais hyd yn oed nad oes gan llawer o'r dosbarth 'diddordeb' yn Nghymru (bwriadais ddweud 'cysylltiadau'!) Wedi dweud hynny doedd hi ddim mor ddrwg â hynny, a ges i gyfle i hyrwyddo fy nhosbarthiadau nos hefyd sy'n peth da :)

Dyma'r dolen i player os oes gen ti ddiddordeb yn y pwnc:

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00mj56p/Taror_Post_07_09_2009/

(Mae'r pwnc yn dechrau tua 43' i mewn i'r rhaglen)

5 comments:

Corndolly said...

Dw i'n cofio siarad ar Radio Calon FM dros y haf, ac mae'n anodd iawn i feddwl yn glir o dan yr un fath o straen. Ac dim ond ar radio lleol oedd hynny. Dw i'n hoffi dy flog ar gyfer dysgwyr yn dy ddosbarth.

Emma Reese said...

Da iawn ti, Neil! Rôt ti'n swnio'n dda! Dwedest ti "diddordeb" yn ddigon cyflym fel bod neb yn ei sylwi dw i'n siwr. Mae'n anodd cael cyfweliad ar y ffôn, mae'n rhaid.

Corndolly said...

Ces i ddigon a amser a ddigon o dawelwch heddiw i wrando ar y rhaglen - diolch am y ddolen. Sgwrs diddorol iawn oedd hynny ond wnes i ddim sylw ar dy 'gamgymeriad' rhaid i mi ddweud. Rôn i'n gallu dy ddeall di, yn well nag un rhywun arall, ond dyna beth sy'n digwydd efo dysgwyr, dw i'n credu. Ti wedi rhoi syniad i mi am fy mlog nesaf !

JonSais said...

Neil
Wnes i wrando arnat ti ac roeddwn i'n meddwl dy fod ti wedi siarad yn dda iawn. Mae hi wastad yn anodd siarad yn fyw ar radio neu deledu, felly llongyfarchiadau.
Mae Cymry Cymraeg ardal Derby a Nottingham wedi bod cefnogol iawn i ddysgwyr lleol, alla i ddim cwyno.

neil wyn said...

Diolch pawb am yr adborth cadarnhaol. Dwi'n credu wnes i glywed Dylan Jones yn darllen dy sylwadau di ar y rhaglen dydd mawrth Jon ynglŷn â dysgu'n bell o Gymru. Dwi heb glywed gan y boi Anthony o Lerpwl eto, er i ymchwilydd y rhaglen rhoi fy manylion iddo fo, gawn i weld!