22.9.09

Y Llyfrgell



Dwi newydd gorffen Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd, llyfr a gipiodd gwobr coffa Daniel Owen eleni, ac sy'n ei leoli yn bennaf tu cefn i furiau llwyd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ond nid argraff llwydaidd yr ydyn ni'n ei cael o fywyd yn yr adeilad crand yn y flwyddyn 2020. Erbyn hyn mae'r llyfr go-iawn wedi eu disodli gan yr e-darllenwr di-enaid, er mwyn i'r awdurdodau tynhau eu hawdurdod dros y gair ysgrifenedig.

Mae gan yr efeilliaid Wdig Nan ac Ana cynllun i ddial hunanladdiad ei Mam, yr awdures a benywydd Elena Wdig, wnaeth neidio i'w marwolaeth, yn sgil adolygiadau cas o'i champwaith diweddaraf gan Eben Prydderch. Mae eisiau ar Eben clirio'r cwmwl sy'n taflu cysgod dros ei enw da, trwy ysgrifennu cofiant i Elena. Er mawr syndod iddo fo, mae o wedi derbyn yr hawl i bori trwy ei chofnodion a dyddiaduron, sydd yng nghrombil yr adeilad mewn archifdy prin o lyfrau go-iawn.

Mae gan Dan cynlluniau.. Mae'r cyn-troseddwr o borthor yn gwneud pres ychwanegol trwy delio cyffuriau i fyfyrwyr y Prifysgol, sy'n heidio trwy ddrysau'r Llyfrgell. Ond nid yn unig trwy marchnata yr mwg ddrwg mai eisiau arno fantesio ar 'gyfleoedd' ei swydd. Mae o wedi cael blas ar Nan neu Ana yn barod, a'r pâr yn gweithio yn y llyfrgell, mewn lle bach tawel yng nghrombil yr adeilad. Ond pwy sy'n manteisio ar bwy tybed?

A dweud y gwir mae diffyg fy Nghymraeg i'n golygu mae'n siwr nad ydwi wir yn gwerthfawrogi safon yr ysgrifennu sydd ynY Llyfrgell. Ond er hynny, dyma 'stori dda', un sy'n symud yn gyflym, ac sy'n troi a throelli tan y diwedd. Mae'n wirioneddol gwerth ei darllen.

Yn ôl yr hyn a welais yn ddiweddar mae gan Fflur Dafydd grant i fynd i'r Unol Daleithiau er mwyn gweithio ar addasiad o'r Llyfr yn y Saesneg. Cyn hir felly mi fydd mwy o bobl y cyfle i fwynhau dawn y merch amldalentog hon.

.

No comments: