11.9.09

Bob bardd, a'i daith hudolus rhyfeddol....



Neithiwr, mi aethon ni allan am bryd o fwyd indiaidd efo ffrindiau, digwyddiad eitha anghyffredin rhaid cyfadde, ond un wnaethon ni fwynhau'n fawr. Mae Simon yn gweithio yn y maes cadwriaeth, ac erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr i'r Yr Ymddiriadolaeth Genedlaethol yn ardal Lerpwl, sy'n cynnwys llefydd fel neuadd Speke, hen adeilad tuduraidd ar gyrion Lerpwl, yn ogystal â dau cyn gartrefi'r 'Fab Four', sef tai plentyndod Lennon a McCartney. Mae Simon yn un wych am adrodd stori, tipyn o 'raconteur' os liciwch chi, a chwmni dda.

Does dim modd ymweled â 'Mendips' neu 20 Forthlin Rd heb fwcio ar daith bws-mini arbennig. Mae'r Ymddiriodelaeth Genedlaethol yn eu rhedeg nhw, yn dechrau naill ai yng nghanol y ddinas neu ger Neuadd Speke. Ychydig o fisoedd yn ôl dyma arweinydd un o'r teithiau yn dweud wrth un o'i cyd-weithwyr, rhywbeth fel 'Ive got this bloke on the bus who's thinks he's Bob Dylan!' Wrth cwrs pwy oedd y boi mewn cwestiwn ond Bob Dylan ei hun! Roedd o yn y ddinas er mwyn chwarae gig yn yr Echo Arena. Ymhlith yr enwogion eraill sydd wedi wneud y taith bws-mini yn ddiweddar yn ôl Simon ydy James Taylor (a gafodd ei ysbrydoli i ddechrau canu gan y Beatles yn ôl y boi ei hun) a Jon Bon Jovi!

Mae busnes y Beatles wedi tyfu'n aruthrol ers i fy nyddiau i yn gweithio ym Mathew St. Pryd hynny doedd 'na ddim 'Cavern', ar ôl i'r hen selars cael eu llenwi er mwyn creu maes parcio. Yr unig atyniad masnachol i dwristiaid y cyfnod oedd amgeuddfa'r Beatles, a leolwyd uwchben ystafelloedd te'r Armadillo, lle loitrodd 'enwogion' sîn cerddoriaeth y dinas a phobl busnes yn chwilio am ginio blasus rhad. Lle gwych lle treuliodd Jill a fi sawl amser cinio yn ystod y cyfnod hynny. Erbyn hyn mae budredd yr hen Mathew st. wedi ei glanhau, ac mae'r Cavern wedi ei ail-creu (yn defnyddio rhai o'r brics gwreiddiol yn ôl y datblygwyr, er gwaethaf y ffaith gafodd sawl bric o'r Cavern (honnedig) ei gwerthu dros y flynyddoedd). Mae 'na siop y Beatles, amgeuddfa llawer iawn mwy yn yr Albert Dock, hyd yn oed gwesty'r Beatles, yn ogystal â teithiau ar y bws 'Magical Mystery'. Efo penblwydd arall yn cael ei dathlu, mae peiriant marchnata y Fab Four yn ei anterth o hyd!

No comments: