21.10.09

Cymhlethdod y Gymraeg?..

Pam yw'r gorffenol mor gymhleth yn y Gymraeg, a pha ffordd o'i mynegi yw'r un gorau/cywir i ddysgu? Dyna be' sy wedi bod yn fy mhoeni ers i'r gwers diweddaraf nos fawrth!

Dyni wedi bod yn canolbwyntio ar y gorffenol ers i ni ddychweled am y tymor newydd, ac mae'r modd sy'n cael ei defnyddio yng Nghwrs Mynediad (fersiwn y Gogledd) yw 'wnes i hon' a 'wnes i'r llall' ar wahan i'r ferfau 'mynd', 'cael', 'dod' ac wrth rheswm 'wneud' (wel nid 'wrth rheswm' mewn gwirionedd... am fod 'wnes i wneud' yn cael ei defnyddio trwy'r amser gan rai Gymry Cymraeg). Mi ddefnyddion ni ddefnydd oddi ar wefan S4C i ddysgwyr yn ystod y noson, sef gweithgaredd i ddysgwyr sy'n dangos sleidiau o un o sioeau y sianel efo testun yn gweddu i lefel a thafodiaith penodol (dewisiais mynediad/gogledd) ac yno mae nhw'n ffurfdroi'r ferf (conjugate) er mwyn ffurfio'r gorffenol. Pob hyn a hyn dyni'n gwylio clip o'r Big Welsh Challenge' yn y dosbarth, ac wrth cwrs yna mae ffurf arall (sef 'wnes i fynd','wnes i ddod') yn cael ei defnyddio.

Dwi heb meiddio crybwyll 'ddaru' eto, er dyna be' mae nhw'n sicr o glywed o bryd i'w gilydd yn y Gogledd. Ac rhaid cyfadde, pan ymddangosodd 'Bu farw' ar y 'sioesleidiau' S4C, ro'n in methu esbonio'r ffurf yno o gwbl. ar wahan i gadarnhau 'died' yw'r ystyr.

Yr unig peth call ro'n i'n gallu dweud wrthynt oedd: mae'n rhaid i'r dysgwr dysgu un ffordd o ddweud rhywbeth (i ddechrau), tra ceisio dysgu'n fras y ffurfiau eraill er mwyn eu deall o leiaf. Dwi'n siwr fy mod i'n addasu'r iaith dwi'n ei siarad er mwyn ceisio ennill teimlad o ffitio mewn. Tasai pawb o fy ngwmpas yn dwedu 'wnes i wneud', wel 'wnes i wneud amdanhi' 'swn i'n dweud!

Wrth cwrs, nid 'darn o gacen' yw'r gorfennol yn Saesneg mae'n siwr, a dwi'n gweld y ffordd a ddenyddwyd yng 'Nghwrs Mynediad' llawer haws na'r ffordd 'ar hap' a ddysgais i, ar ran siarad ar lafar o leiaf.

3 comments:

Emma Reese said...

Hynny ydy'r peth mwyaf anodd yn Gymraeg, anos o lawer na threigladau yn fy nhyb i. Yn aml iawn, dw i ddim yn gwybod pa ffurf ddylwn i ei defnyddio mewn sgwrs. (Dw i wedi clywed 'nes i neud' hefyd!)

"Yr unig peth call ro'n i'n gallu dweud wrthynt oedd: mae'n rhaid i'r dysgwr dysgu un ffordd o ddweud rhywbeth (i ddechrau), tra ceisio dysgu'n fras y ffurfiau eraill er mwyn eu deall o leiaf."

Ti'n llygad dy le.

Gyda llaw, pryd wyt ti'n mynd i sôn am y ffurfiau dyfodol? ^^

Alwyn ap Huw said...

Gor ddefnydd ar rediad y ferf "bod" yn hytrach na rhedeg berfau eraill yn gywir, o bosib?

Mae'r plantos yn mynd i Ysgol Gymraeg ac y maent yn cael eu dysgu i ddweud pethau megis "Mi wnes i ganu yn y côr ddoe" yn hytrach na "Chenais yn y côr ddoe".

Pwy fydde'n dweud heddiw adwaen, adnabyddaf, adwaenwn, adnabûm, adnabuaswn, adnapwyf neu adnapwn? Roeddwn yn adnabod, yr wyf yn adnabod, byddwyf yn adnabod yw e' i gyd bellach – gwneud y Gymraeg yn haws trwy ei gymhlethu!

Yr ateb syml i'r broblem yw dysgu rhediadau'r berfau rheolaidd a derbyn rhediadau afreolaidd, yn union fel y mae dyn wrth ddysgu Ffrangeg, Eidaleg, Lladin ac ati ac ati!!!

Alwyn ap Huw said...

Damnia, mi greais fai fy ngwrthwynebiad trwy ddweud Pwy fydda’n dweud yn hytrach na phwy a ddywed - DOH!