15.10.09

Shotolau, siwts cragen a thelyn y clerwr....

Mae'n hen gellwair bod S4C yn ail-ddarlledu eu cynhyrch tro ar ôl tro er mwyn llenwi'r sianel digidol. Erbyn hyn mae nhw wedi pecynnu rhai o'r rhaglenni hynny o dan yr enw Yr Awr Aur, ac mae delwedd bach o hen deledu yn nghornel y sgrîn yn dy rybuddio mai 'clasur' S4C sy'n cael ei dangos, rhag ofn i ti poeni bod ffasiwn Cymru 2009 ychydig ar ei ôl!

Welais ryfedd o raglen o'r 70au/80au un ddiwrnod (dwi ddim yn sicr pa ddegawd yn union) o'r enw Shotolau, efo dillad, jôcs a chwerthin ffug yr un mor ryfedd a'u gilydd. Ond ddoe welais i un arall yn 'yr awr aur' o'r enw Hel Straeon, rhaglen cylchgrawn oedd yn cael ei ffilmio'r tro yma yn swyddfeydd 'Golwg', ar achlysur cyhoeddiad rhifyn cyntaf y cyfrol wythnosol. Ar yr un un raglen welsom ni stori o farchnad Llangefni, am glerwr (cerddor yr heol) ifanc yn canu ei delyn celtaidd, efo ambell i siopwr mewn 'siwt cragen poli-ester' yn edrych yn synn ar yr olygfa o flaen ei lygaid. Ymddangosodd rai fel petai ryw atgof pell wedi cael ei cynhyrfu yn nyfnder eu isymwybod, rhyw gysylltiad i'r hen wlad, gwlad beirdd a chantorion, wrth i Twm Morys eu diddanu gyda ei alawon a'i lais hudol. Erbyn hyn bardd plant Cymru yw Twm Morys, a mae'n siwr ni welwch chi gymaint o bolyester ar strydoedd Ynys Môn (gobeithio), ond braf oedd gweld yr hanes yn cael ei ail-ddarlledu.

2 comments:

Emma Reese said...

Gweles i raglen Hel Straeon flynyddoedd yn ôl hefyd. Cael benthyg fideo o Gymdeithas Madog wnes i. Hanes Cymraes a wnaeth briodi hogyn o Japan oedd o. Cynhaliwyd y seremoni briodas yn Gymraeg yn Tokyo. Roedd hi'n canu cân Japaneg mewn tafarn hefyd. (Roedd hi'n dda iawn!) Ac roedd ei gwr yn siarad tipyn bach o Gymraeg ar ffôn efo mam ei wraig o. Diddorol iawn. Dw i'n credu bod nhw'n dal yno.

neil wyn said...

Falle caiff y pennod hynny ei ail-darlledu yn yr 'awr aur' hefyd, mae'n swnio diddorol iawn :)