26.10.09

Up....

Mi aethon ni fel teulu i weld ffilm Pixar newydd, sef UP dros y penwythnos, a wnaethon ni i gyd yn wir ei mwynhau (er mae'n cryn amser ers i ni weld cartŵn yn y sinema). Roedd y perfformiad yn un 3D, felly roedd gan bawb golwg 'Joe90aidd' wrth i ni eistedd yn eiddgar yn eu sbectol arbennig a ddarparodd efo'n tocynau, golygfa wirioneddol o ryfedd. Mae'r effeithiau 3D wedi gwella'n aruthrol ers dyddiau gynnar y technoleg arbennig 'ma mae'n siwr. Y ffilm cyntaf dwi'n cofio gweld yn yr arddull hon oedd Jaws 3D, sef y trydydd yn y cyfres (ac yr un gwanaf ar ran stori), ond ffilm nad oedd unrhyw fath o effeithiau arbennig yn mynd i'w achub.

Heb os nac onibai mi fasai UP wedi bod yn ffilm da heb y 3D, ond mae'r effaith arbennig yn ychwanegu at y profiad cinematic am wn i. Mewn rhannau wnes i dynnu fy sbectol er mwyn gorffwys fy llygaid ychydig, ac roedd y stori yn dal i gadw fy sylw, er roedd y llun yn fymryn yn aneglur heb dy sbectol. Ar ôl cyfnod wrth rheswm mae rhywun yn dod i arfer efo'r effaith 3D, er mae'n andros o effeithiol rhaid i mi ddweud. Ond ffilm clyfar a theimladwy yw UP, un i'r teulu gyfan i fwynhau, sdim ots faint o ddimensiynau mai dy sinema lleol yn ei gynnig!

3 comments:

Emma Reese said...

Darllenais adolygiad "Up" yn Gymraeg gan Lowri Haf Cooke yn ddiweddar. Roeddwn i'n meddwl bod y ffilm yn swnio'n dda, ac ti wedi cadarnhau barn Lowri.

Corndolly said...

Gwelodd fy mab y ffilm, (yng nghanol ei dri ddegau ydy o) ond does ganddo fo ddim llawer i ddweud am y ffilm. Ond dw i'n falch o glywed bod rhywun wedi mwynhau'r ffilm.

neil wyn said...

Prawf syml fi y dyddiau 'ma yw os dwi'n cadw fy llygaid ar agor trwy'r holl ffilm, siawns mae'n ffilm go lew... Pasiodd UP!