17.1.10

Tir Iolo

Pob hyn a hyn mae S4C yn dod â chyfres arbennig i ni, ac o'r hyn dyni wedi gweld hyd yn hyn, 'Tir Cymru' dwi'n credu yw un ohonynt. Yn y cyfres 'ma mae'r nuturiaethwr Iolo Williams, (David Attenborough Cymru?), yn crwydro'r wlad yn edrych at sut gafodd tirlun Cymru ei greu, ac mae'r ffotograffiaeth fel fasech chi'n ei disgwyl yn arbennig o dda. Heno roedd Iolo yn gwasgu ei gorff trwy tyllau a chraciau er mwyn chwilio rhai o ogofau Cymru, a'r holl tirlun anhygoel dan ddaear sy'n bell o olwg y rhan mwyaf ohonyn ni. Dwi wedi gosod y peiriant recordio i wneud y cyfres, rhag ofn i mi golli un dros y wythnosau nesaf!

2 comments:

Ann Jones said...

Dwi'n cytuno. Roedd yr ail raglen yn eithriadol o dda. Roeddwn i ddim mor siwr am y cyntaf. Roedd ei gyfres dwytha - Rwsia - yn arbennig o dda hefyd. Roedd hyd yn oed fy ngwr, sydd ddim yn deall Cymraeg eisiau gwylio Rwsia (hefo'r is teitlauf). (Fel arfer dwi ar ben fy hyn yn gwylio S4C)

neil wyn said...

A finnau hefyd Ann! Does neb arall yn y tŷ fan hyn sy'n deall Cymraeg chwaith. Mae'n annodd argyhoeddi aelodau o'r teulu i ddygymod â'r is-deitlau yn anffodus :( ond boi da yw Iolo 'tydy!