10.1.10

Rhagor o olygfeydd....



Mi wnaethon ni weld rhagor o olygfeydd rhyfeddol ar y traeth ddoe, wrth i ni fynd am dro crwn o gwmpas y dre, efo'r bwriad o gael tipyn o awyr iach tra wneud y siopa yn Morrisons ar y ffordd yn ôl. Roedd o'n braf gweld cymaint o bobl yn cerdded yn hytrach na gyrru i'r archfarchnad, gan fod cyflwr y ffyrdd yn dal i fod yn peryglus, ac o'herwydd hynny mae'n ymddangos bod pobl yn fwy parod i gymdeithasu a rhannu eu profiadau o'r rhew ac eira.



Tynnais y llun hon o'r clogwynau bychan a greuwyd gan effaith y llanw ar eira ar y traeth. Roedd Layla'r milgi fach yn gwisgo dau got oherwydd y tymheredd, ond doedd hi ddim yn rhy hoff o sefyll yn yr un fan am hir, am fod ei thraed yn teimlo'n ofndwy o oer am wn i...bechod!

No comments: