21.1.10

Hanes Cuddieddig Cilgwri....



Ro'n i'n eistedd tu allan i 'Screwfix' y bore 'ma, wrth ymyl iârd trwsio llongiau Cammel Laird, pan sylwais ar adfeiliau Priordy Penbedw yn sbecian dros llong ferri enfawr oedd mewn un o ddociau sych y iârd. Ar y ffordd adre penderfynais droi o'r prif ffordd tuag at yr hên briordy, er mwyn cael gweld yn well y golygfa rhyfeddol, ac am nad ydwi wedi bod yn y Priordy ers talwm. Wrth yrru trwy'r ystâd diwidiannol di-nod sy'n ei amgylchynu erbyn hyn, mae dod o hyd i adfeiliau'r priordy a thŵr cyn eglwys plwyfol y dref (a gafodd ei dymchwel yn y saithdegau), yn cuddio rhwng y ffatrioedd a'r dociau yn rhyfedd o beth. Wrth cyrraedd adre roedd rhaid i mi wneud ychydig o 'Googlo' er mwyn atgoffa fy hun o hanes y lle, un sydd â chysylltiadau a Chymru.


Wnewch chi weld Lerpwl dros yr afon yn y llun yma.

Cafodd Briordy Penbedw ei sefydlu yn 1150, sy'n wneud i'r darnau sydd ar ôl yr adeiladau hynaf ar Lannau Mersi. Adeg hynny doedd fawr neb yn byw yng Nghilgwri, a llecyn distaw a gwledig ar lannau coediog y Mersi oedd lleoliad y Priordy, (Mae un ddamcaniaeth am wraidd enw'r dre'n cyfeirio at 'bentir llawn bedw', yr un ddamcaniaeth sydd ar wraidd y fersiwn Cymraeg, er dim ond yn yr hugainfed canrif a bathwyd y fersiwn hon!). Yn 1275 a 1277 mi dreuliodd Edward 1 nifer o ddyddiau yn y Priordy, ar ei ffordd i'w ymgyrchoedd yng Nghogledd Cymru, arwydd o bwysigrwydd y sefydliad yn yr ardal ar y pryd. Mi aeth y mynachod ymlaen i sefydlu fferri dros y Mersi yn 1330, taith oeddent yn ei wneud er mwyn gwerthu eu cynnhyrch dros y dŵr hefyd. Mi ddaeth pethau i ben i'r mynachod gyda diddymuiad y mynachglogydd gan Henry V111, a chauodd Priordy Penbedw yn 1536. Yn 1821 codwyd eglwys St Marys wrth ymyl i adfeiliau'r Priordy, ond cafodd yr adeilad hwnnw ei dymchwel yn ôl yn 1970, ar wahan i rai o'r waliau a'r tŵr clychau sydd gan feindwr hyfryd ac amlwg.

Erbyn heddiw mae hen dŷ'r siapter y priordy yn cael ei defnyddio fel eglwys, ac mae 'na ganolfan treftadaeth yna, ond mae 'English Heritage' yn poeni am gyflwr y safle yn ôl y son, sy'n codi pryder am ddyfodol y safle. Y tro nesaf i mi fynd i Screwfix, rhaid i mi dreulio mwy o amser yna...

No comments: